Cost of Living Support Icon

 

Ffynnon dwr yfed newydd i Benarth

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi gosod ffynnon dŵr yfed yng nghyrchfan arfordirol boblogaidd Penarth.

  • Dydd Mercher, 07 Mis Chwefror 2024

    Bro Morgannwg

 

 

 

Water fountain Penarth 1

Yn unol ag amcanion Prosiect Sero y Cyngor, nod yr orsaf llenwi poteli am ddim yw lleihau'r defnydd o boteli plastig tafladwy, gan gynnig dewis arall sy'n gyfeillgar i'r amgylchedd ac yn economaidd yn lle prynu dŵr potel.

 

Wedi'i ariannu gan Gyllideb Cyfalaf Seilwaith Arfordirol Blynyddol y Cyngor, sydd wedi'i chlustnodi ar gyfer cynnal a gwella cyrchfannau arfordirol y Sir, mae gosod y ffynnon ddŵr yn dilyn agor dwy gawod ar Draeth Penarth.

 

Wedi'i leoli ar Cliff Hill, gyferbyn â Gorsaf Bad Achub RNLI Penarth, mae'r ffynnon ddŵr â’i chefn i'r cawodydd newydd ac yn defnyddio'r un cyflenwad dŵr.

 

 

Water fountain Penarth 2

Dywedodd y Cynghorydd Mark Wilson, Yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdogaeth ac Adeiladau: “Mae tref a chyrchfan arfordirol Penarth yn boblogaidd ymhlith grwpiau nofio ac ymwelwyr drwy gydol y flwyddyn.

 

“Mae'r cawodydd newydd ar Draeth Penarth wedi bod yn boblogaidd iawn, ac felly rwy'n falch iawn o gynnig cyfleuster arall i wella profiad y rhai sy'n byw yn y dref ac yn ymweld â hi.

 

“Rwy'n gobeithio y bydd y ffynnon ddŵr newydd yr un mor boblogaidd ac yn lleihau'r defnydd o blastig untro, a fydd yn ei dro yn gwarchod ein harfordir gwych.”