Cyllid gan gwmni Arlwyo Big Fresh Cyngor Bro Morgannwg yn darparu man eistedd awyr agored newydd i ysgol leol
Mae Ysgol Gynradd Palmerston wedi defnyddio cyllid Big Fresh i greu man eistedd awyr agored newydd i'r disgyblion fwynhau bwyta alfresco a gwersi awyr agored.

Mae'r man awyr agored wedi'i enwi'n 'Smart Space' er anrhydedd i Reolwr y Gegin a’r Cogydd, Tracey Smart, sydd ynghyd â'i thîm, yn darparu prydau cytbwys maethlon i bob disgybl.
Dwedodd y Pennaeth Sarah Cason: "Mae hwn yn gyfleuster gwych y gall y myfyrwyr ei fwynhau yn ystod y misoedd cynhesach.
Bydd y gofod allanol yn gwella lles ac yn galluogi ein hathrawon i ddarparu gwersi awyr agored a fydd yn gwella yr ymgysylltiad rhwng athrawon a myfyrwyr."
Cafodd y prosiect a gwblhawyd gyda rhoddion gan fusnesau cymunedol lleol a rhieni ei ariannu'n bennaf gan y cwmni Arlwyo Big Fresh gydag arian i gefnogi prosiectau ysgolion a chymunedol.
Sefydlodd y Cyngor gwmni Big Fresh fel Cwmni Masnachu Awdurdod Lleol yn 2020.
Mae'n darparu prydau ysgol i ysgolion partner, yn gweithredu gwasanaeth arlwyo masnachol a bar a chaffi ym Mhafiliwn Pier Penarth.
Mae model busnes arloesol yn caniatáu i'r cwmni weithredu fel endid masnachol, gyda'r holl wargedion yn cael eu dychwelyd i ysgolion neu'n cael eu defnyddio i gynnal y busnes ei hun.
Yn unol â'r ethos dielw hwn, nid oes yr un o gyfarwyddwyr y cwmni yn gyflogedig ac nid yw'r Cyngor, fel yr unig gyfranddaliwr, wedi tynnu unrhyw arian allan o'r cwmni.
Meddai Carole Tyley, Rheolwr Gyfarwyddwr Cwmni Arlwyo Big Fresh: "Rydym yn falch iawn o weld canlyniadau'r man eistedd newydd yn yr ysgol.
"Mae'r cyllid yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i ysgolion a phrosiectau cymunedol ledled y Fro, ac rydym yn gobeithio y gallwn barhau i gefnogi prosiectau gwerth chweil fel hyn yn y dyfodol gyda chymorth busnesau a rhieni lleol."
Mae The Big Fresh Catering Company yn darparu bwydlenni iach a chytbwys i ysgolion, busnesau a digwyddiadau preifat ar draws Cymru.
Mae elw mentrau Big Fresh, yn dod o fusnesau corfforaethol a phreifat ac yn cael ei fuddsoddi'n syth yn ôl i'n hysgolion
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’w gwefan yma.