Gwaith amddiffyn rhag llifogydd yn dechrau yn Ninas Powys
Bydd gwaith i amddiffyn 177 eiddo preswyl a phum adeilad cymunedol yn Ninas Powys rhag llifogydd yn dechrau cyn bo hir ar ôl i Gyngor Bro Morgannwg sicrhau £1.5 miliwn o gyllid gan Lywodraeth Cymru.
Bydd yr arian hwnnw'n cael ei ddefnyddio i wneud y strwythurau hyn yn fwy gwydn i lifogydd ar ôl i lawer gael eu hamlyncu gan ddŵr pan fyrstiodd Afon Tregatwg ei glannau bedair blynedd yn ôl.
Ymhlith y mesurau a all wneud eiddo'n fwy gwydn i lifogydd mae gosod drysau neu rwystrau llifogydd, gorchuddion brics aer, falfiau di-ddychwelyd, a phympiau gwrth-ddŵr allanol.
Mae contractwr arbenigol, Lakeside Flood Solutions, wedi'i benodi i ymgymryd â'r gwaith, a fydd yn cael ei reoli gan yr ymgynghorwyr Wardell Armstrong ar ran y Cyngor.
Byddwn yn cysylltu ag eiddo yr effeithir arnynt dros yr wythnosau nesaf i drefnu arolwg i nodi'r gwaith sydd ei angen, gyda'r gwaith yn cael ei wneud y flwyddyn galendr hon.
Rhoddwyd cyflwyniad ar y prosiect hefyd yn ddiweddar i Grŵp Gweithredu Llifogydd Dinas Powys.
Dywedodd y Cynghorydd Mark Wilson, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Wasanaethau Cymdogaeth ac Adeiladu: "Mae llifogydd yn achosi trawma difrifol i'r rhai yr effeithir ar eu heiddo. Gall difrod fod yn ddrud i'w atgyweirio, tra bod ‘na gost emosiynol o weld eich cartref yn cael ei foddi mewn dŵr hefyd.
"Mae'r eiddo a nodwyd ar gyfer y rhaglen waith hon yn rhai sy’n wynebu risg uchel o lifogydd, rhywbeth y mae llawer ohonynt wedi’i ddioddef o’r blaen.
"Bydd y mesurau sy'n cael eu cyflwyno nid yn unig yn helpu i amddiffyn yr adeiladau hyn, ond hefyd yn lleihau'r effaith ar y rhai sy'n byw’n lleol trwy amddiffyn asedau cymunedol.
"Bydd gwaith yn cael ei ariannu'n llwyr gyda chyllid grant gan Lywodraeth Cymru ac yn cael ei oruchwylio gan gwmnïau arbenigol, sy'n arbenigo mewn cyflawni prosiectau o'r fath."