Y Cyngor yn cymryd camau cyfreithiol yn erbyn datblygwyr Glannau'r Barri
Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi dod i gytundeb cyfreithiol gyda'r consortiwm o ddatblygwyr yn Nglannau'r Barri drwy Orchymyn Cydsyniad, sy'n cyfyngu ar eu gallu i werthu eiddo pellach nes bod cyfleusterau cymunedol yn cael eu cwblhau ar ôl yr holl oedi.
Cyhoeddodd y Cyngor gyntaf ei fod yn ystyried camau cyfreithiol yn erbyn Consortiwm y Glannau, sy'n cynnwys adeiladwyr tai cenedlaethol Persimmon Homes, Taylor Wimpey a Barratt Homes, fis Awst diwethaf.
Mae oedi wedi bod i’r tirlunio, gosod arwyneb ffyrdd a gwaith ar fannau agored ar y glannau. Drwy gyfarfodydd gyda'r Cyngor, mae trigolion hefyd wedi codi cwynion am yr unedau manwerthu gwag o fewn datblygiad masnachol o'r enw Y Ganolfan Ardal.
Mae Arweinydd, Prif Weithredwr ac uwch swyddogion eraill y Cyngor wedi bod yn cyfarfod â'r consortiwm yn rheolaidd dros y misoedd diwethaf i bwyso arnynt i ddarparu'r cyfleusterau rhagorol hyn fel yr addawyd. Bu cynnydd cadarnhaol dros y cyfnod hwn mewn nifer o ardaloedd y Glannau, a bydd y cyfarfodydd hyn yn parhau hyd nes y bydd y seilwaith wedi'i orffen.
Fel rhan o'r cytundeb sy'n cyfyngu ar weithgaredd gwerthu tai, mae'n rhaid i'r consortiwm hefyd roi £10,000 i'r Cyngor i dalu ffioedd cyfreithiol.
I ddechrau, roedd y Cyngor wedi ceisio cael gwaharddeb i sicrhau bod y man agored cyhoeddus ar y safle’n cael ei wireddu, fodd bynnag, mae'r Gorchymyn Cydsyniad y cytunwyd arno yn dod i’r un canlyniad heb yr angen am gamau pellach gan lys, gan ddod â chasgliad cyflymach i bawb sydd ynghlwm.
Dwedodd y Cynghorydd Lis Burnett, Arweinydd y Cyngor: "Rwy'n falch y daethpwyd i gytundeb i ddarparu'r holl gyfleusterau cymunedol rhagorol sydd wedi cael eu haddo ers tro i drigolion Glannau’r Barri.
"Trwy gyfarfodydd rheolaidd, rydym wedi cyfleu ein teimladau cryf i'r datblygwyr yn blwmp ac yn blaen ac rydym wedi bod yn benderfynol o'u dal yn atebol.
"Mae'r Cyngor yn parhau i fod yn ymrwymedig i sicrhau bod pob agwedd gymunedol ar ddatblygiad y Glannau yn cael ei chwblhau a bydd yn ystyried yr holl gamau sydd ar gael i sicrhau bod hyn yn digwydd."