Cost of Living Support Icon

 

Cyngor yn edrych i warchod gwasanaethau bysus

Mae Cyngor Bro Morgannwg yn gobeithio gwarchod yr holl lwybrau bysus presennol a chynnig gwell gwasanaethau mewn rhai ardaloedd.

 

  • Dydd Mercher, 07 Mis Chwefror 2024

    Bro Morgannwg



 

Bydd cyfanswm o £470,000 yn cael ei ddyrannu o gyllideb y flwyddyn nesaf at y diben hwn ac mae cyllid Llywodraeth Cymru hefyd wedi'i sicrhau.

 

Bydd Adventure Travel yn gyfrifol am y gwasanaethau 88, 100 a B3, sy'n rhedeg rhwng Penarth a'r Barri, Y Barri a Colcot, ac yn y Barri, yn y drefn honno.

 

Bydd Gwasanaeth 93, yn teithio o Gaerdydd i'r Barri; 305, sy’n cysylltu Caerdydd â Dinas Powys; a’r B1 a'r B2, sy'n gweithredu o amgylch y Barri ac Ynys y Barri, yn cael eu gweithredu gan Fws Caerdydd.

 

Bydd First Cymru yn rhedeg y gwasanaeth 303 o Lanilltud Fawr i Ben-y-bont ar Ogwr, y gwasanaeth 304 rhwng Llanilltud Fawr a Chaerdydd; a'r 320, sy'n teithio trwy Hensol, Pendeulwyn a Llanbedr-y-fro ar ei lwybr rhwng Tonysguboriau a Chaerdydd.

 

Bydd hefyd yn gweithredu'r 321 rhwng Llanilltud Fawr a Thonysguboriau, a'r X2, sy'n stopio ar wahanol fannau ar hyd yr A48 ar ei ffordd o Borthcawl i Gaerdydd. 

 

Dwedodd y Cynghorydd Bronwen Brooks, Aelod Cabinet Bro Morgannwg dros Leoedd Cynaliadwy:  "Fel sydd wedi cael cyhoeddusrwydd da, mae'r Cyngor yn wynebu sefyllfa ariannol hynod heriol yn wyneb costau cynyddol a lleihau arian.

 

"Mae'r diwydiant bysus hefyd wedi gweld costau'n cynyddu'n sylweddol ar ôl y pandemig ochr yn ochr â gostyngiad amlwg yn nifer y teithwyr.

 

"Er gwaethaf yr anawsterau hynny, mae diogelu darpariaeth bysiau yn parhau i fod yn flaenoriaeth lwyr i'r weinyddiaeth hon.  Rydym yn gwerthfawrogi bod rhai preswylwyr yn dibynnu ar y gwasanaethau hyn a'r rôl bwysig y maent yn ei chwarae wrth gysylltu ein cymunedau, yn enwedig y rhai yn y Fro wledig.

 

"Mae'r Cyngor wedi bod yn gweithio'n agos gyda gweithredwyr, Awdurdodau Lleol eraill a Llywodraeth Cymru i barhau â'r ddarpariaeth y tu hwnt i ddiwedd y flwyddyn ariannol hon.

 

"Mae'r cynlluniau hyn yn cynnwys cadw llwybrau bysiau presennol a gwella'r gwasanaeth sydd ar gael mewn rhai achosion.

 

"Yn ogystal â thanlinellu ein hymrwymiad i ofalu am drigolion mwyaf bregus y Fro, mae'r cam hwn hefyd yn cyd-fynd â menter Sero-Prosiect y Cyngor i wneud y sefydliad yn garbon niwtral erbyn 2030."

 

Bydd gwasanaethau'n gweithredu yn unol â'r amserlenni presennol yn bennaf, er y gallai fod rhai mân newidiadau i deithiau ar ôl 31 Mawrth.

 

Bydd amserlenni dydd Sadwrn yn adlewyrchu amserlenni yn ystod yr wythnos ar gyfer gwasanaethau 93, B1 a B2, gan roi hwb i'r gwasanaeth a gynigir ar y diwrnod hwn.

 

Bydd gwasanaeth bws lleol yn cael ei adfer ar gyfer y Bendricks a bydd nifer y gwasanaethau sy'n defnyddio Cyfnewidfa Dociau'r Barri yn cynyddu.

 

Mae'r gwasanaethau 94 a 96 gyda'r nos yn parhau heb eu newid, tra bod Gwasanaeth 7 yn cael ei dendro gan Gyngor Caerdydd a bydd ei ddyfodol yn cael ei benderfynu gan Gyngor Caerdydd maes o law.