Cyhoeddi dosbarthiadau dŵr ymdrochi y Fro
Mae Bro Morgannwg yn ymfalchïo â thri traeth gyda dŵr wedi'i gategoreiddio fel rhagorol a thri arall â sgôr da, datgelu data a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru.
Mae ansawdd dŵr ym Mae Watch House Bay hefyd wedi codi un band i gael ei ddosbarthu fel 'digonol' ac mae unwaith eto yn addas ar gyfer ymdrochi felly bydd arwyddion sy'n rhybuddio pobl i beidio â mynd i mewn i'r dŵr yn cael eu tynnu.
Mae'r Cnap, Col-Huw yn Llanilltud Fawr a Bae Dunraven Southerndown i gyd wedi cael eu graddio'n ardderchog, tra bod y canlyniadau yn dangos bod y dŵr yn Nhraeth Penarth, Bae Jackson a Bae Whitmore yn dda.
Mae'r dŵr yn Ogwr yn parhau i fod yn 'wael' er bod gwelliannau yn rhai o'r samplau a gymerwyd.
Caiff samplau eu hasesu dros gyfnod o bedair blynedd, sy'n golygu y bydd samplau gwael o flwyddyn gyntaf cyfnod asesu dwy flynedd yn parhau i effeithio ar y dosbarthiad dŵr ymdrochi nes cymryd nifer fwy o samplau mwy cadarnhaol.
Dywedodd y Cynghorydd Ruba Sivagnanam, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Ymgysylltu â'r Gymuned, Cydraddoldeb a Gwasanaethau Rheoleiddio: “Mae'r canlyniadau hyn yn dangos bod ansawdd y dŵr ar y mwyafrif helaeth o draethau yn y Fro naill ai'n ardderchog neu'n dda ac mae camau a gymerwyd i wella'r dŵr ym Mae Watch House yn golygu nad yw bellach wedi'i raddio fel gwael felly mae'n ddiogel i nofio ynddo.
“Bydd y Cyngor yn parhau i geisio gweithredu a gwelliannau gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a Dŵr Cymru i fynd i'r afael â'r sefyllfa yn Ogwr.
“Mae'n bwysig cofio nad yw'r Cyngor yn gyfrifol am reoleiddio ansawdd dŵr ymdrochi ar draethau, ond rydym am i bawb fwynhau'r lleoliadau hyn felly mae canlyniad Ogwr yn siomedig
“Mae'r darlleniadau a gymerwyd yno yn dangos amrywiadau mawr mewn ansawdd dŵr. Er bod mwyafrif helaeth y samplau a gymerwyd yn cael eu hystyried yn ardderchog, ar nifer fach o achlysuron cafwyd darlleniadau uchel ar gyfer rhai bacteria.
“Yn anffodus, nid yw'r profion hwn yn pennu'r rheswm dros ansawdd dŵr gwael. Mae nifer o ffactorau naturiol a llygryddion posibl a allai effeithio ar y sefyllfa.
“Mae pawb eisiau dŵr ymdrochi glân, ac rydyn ni eisiau hynny hefyd. Ond bydd lles ymwelwyr bob amser yn dod gyntaf felly, yn anffodus, am y tro, mae'n rhaid i ni gynghori yn erbyn ymdrochi yn Ogwr.”
Y llynedd, daeth y Cyngor â phartïon allweddol at ei gilydd i helpu i fynd i'r afael â materion gydag ansawdd dŵr ym Mae Watch House ac Ogwr wrth y Môr.
Yn ogystal â'r mater yn cael ei drafod mewn cyfarfod o Bwyllgor Craffu'r Amgylchedd ac Adfywio, yn cynnwys cynrychiolwyr o CNC a Dŵr Cymru, arweiniodd uwch swyddogion y Cyngor gyfarfodydd cyhoeddus gyda grwpiau nofio lleol o'r ddwy ardal.
Bydd y Cyngor yn parhau i geisio gwelliannau i ansawdd dŵr yn Ogwr, fel y gall trigolion ac ymwelwyr ei fwynhau fel ei gilydd.
Lle bo modd bydd yn gweithio mewn partneriaeth â CNC a Dŵr Cymru ond ochr yn ochr â hyn, mae'n hanfodol bod yr asiantaethau hynny yn canolbwyntio ar sicrhau bod dyfroedd ymdrochi y Fro i'r safonau uchaf.
Bydd y canlyniadau diweddaraf hyn eto yn destun dadl mewn cyfarfod o Bwyllgor Craffu'r Amgylchedd ac Adfywio'r Cyngor yn gynnar yn y flwyddyn newydd.
Yno bydd uwch gynrychiolwyr CNC a Dŵr Cymru yn cael eu gwahodd i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i gynghorwyr a'r cyhoedd am eu gwaith parhaus i wella ansawdd dŵr ymdrochi yn y Fro.