Cyngor yn rhybuddio am sgamiau Nadolig
Mae Cyngor Bro Morgannwg yn annog trigolion i fod yn wyliadwrus ychwanegol am sgamiau cyn y Nadolig.
Mae Gwasanaethau Rheoleiddio a Rennir (SRS) yn gwneud gwaith Safonau Masnach ac ystod o swyddogaethau eraill yn ardaloedd Awdurdodau Lleol y Fro, Caerdydd a Phen-y-bont ar Ogwr.
Mae'n cymryd rhan weithredol wrth nodi ac erlyn masnachwyr twyllodrus mewn ymdrech i gadw defnyddwyr yn ddiogel.
Gyda thymor yr ŵyl yn agosáu, mae'n bwysig bod yn fwy gofalus yn gyffredinol wrth brynu eitemau, tra bod rhai enghreifftiau penodol o dwyll i wylio amdanynt.
Mae ymchwil gan NatWest yn dangos bod 41 y cant o oedolion Prydain yn derbyn mwy o ddulliau sgam yn ystod mis Tachwedd a Rhagfyr, tra bod colledion sgam brynu bellach ar eu lefel uchaf ers dechrau casglu data yn 2020.
Mae'r banc wedi cynhyrchu 'calendr sgamvent' arbennig, sy'n cynnwys drysau sy'n cynrychioli'r sgamiau prynu mwyaf cyffredin y mae'r cyhoedd yn debygol o ddod ar eu traws ar yr adeg hon o'r flwyddyn.
Maent yn cynnwys twyllodrwydd yn ymwneud â ffonau, tocynnau; talebau ar-lein a chardiau rhodd; gliniaduron a thabledi; dillad, gemwaith, gemau fideo, ceir, oriorau, bagiau llaw moethus; ac esgidiau.
Dywedodd y Cynghorydd Ruba Sivagnanam, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Aelod Cabinet dros Ymgysylltu â'r Gymuned, Cydraddoldeb a Gwasanaethau Rheoleiddio: “Yn anffodus, mae sgamiau sy'n targedu'r cyhoedd yn gyffredin ac wedi dod yn fwy soffistigedig yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Maent yn aml yn gwneud defnydd o'r dechnoleg ddiweddaraf a gallant fod yn argyhoeddiadol iawn gyda dulliau a thechnegau twyllwyr yn datblygu'n gyflym.
“Mae SRS yn cymryd rhan weithredol wrth godi ymwybyddiaeth o dwyll er mwyn atal niwed i ddefnyddwyr, gyda nifer y sgamiau yn arbennig o uchel adeg y Nadolig wrth i lefelau siopa gynyddu.
“Mae'n bwysig i drigolion fod yn fwy gwyliadwrus ac yn holi nag erioed o'r blaen o ystyried y math o dwyllgorau cymhleth rydyn ni'n eu gweld nawr.
“Gofynnwch i chi'ch hun bob amser a yw cyfathrebiad yn ddilys ac os oes gennych unrhyw amheuaeth, cysylltwch â'r sefydliad neu'r person eich hun i wirio.
“Mae'n ddefnyddiol Stopio, Meddwl a Gwirio, cyn i chi ymateb neu ddarparu unrhyw fanylion personol neu sensitif.”