Datganiad y Cyngor ar setliad cyllid dros dro Llywodraeth Cymru
Mae Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg, Lis Burnett, wedi ymateb i gyhoeddiad cyllid Llywodraeth Cymru gan Awdurdod Lleol.
Datgelodd Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg, y byddai'r Cyngor yn derbyn, cynnydd o 3.4 y cant ar ffigur y llynedd.
Daw'r mwyafrif o gyllid y Cyngor o'r ffynhonnell hon, gyda'r gweddill yn cynnwys cyfraniadau treth gyngor a chyfran o ardrethi busnes a gesglir ledled Cymru.
Dywedodd y Cynghorydd Burnett: “Mae croeso i'r newyddion heddiw gan y bydd y Cyngor yn derbyn mwy o arian nag yr oeddem yn ei ragweld. Hoffwn ddiolch i gydweithwyr yn Llywodraeth Cymru a'r DU am gydnabod yr anawsterau ariannol sylweddol y mae Awdurdodau Lleol yn eu profi a gweithredu i wella'r darlun drwy'r setliad heddiw ac yng Nghyllideb yr Hydref y Canghellor.
“Fodd bynnag, ni fydd hyn yn unig yn datrys y broblem ac nid oes cuddio'r ffaith ein bod yn parhau mewn sefyllfa ariannol hynod heriol a achosir gan gostau cynyddol a thoriadau cyson ar gyllid termau real dros y degawd diwethaf.
“Mae'r setliad yn dal i adael angen inni wneud arbedion sylweddol i gydbwyso'r llyfrau, tasg a fyddai'n anoddach heb y camau rydym eisoes wedi'u cymryd.
“Mae prisiau ynni uchel, chwyddiant a chyfraddau llog yn cyfrannu at y sefyllfa, yn ogystal â chostau sy'n gysylltiedig â'r galw cynyddol am Ofal Cymdeithasol a darpariaeth ar gyfer disgyblion ysgol ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY).
“Yr hyn fydd bob amser yn flaenoriaeth llwyr yw gofalu am ein trigolion mwyaf bregus a diogelu'r gwasanaethau y maent yn dibynnu arnynt.
“Y flwyddyn nesaf bydd 70 y cant o'r gyllideb yn cael ei wario ar Addysg a Gofal Cymdeithasol, i fyny o 68 y cant y llynedd, gyda'r gyfran honno ar fin codi eto yn y dyfodol.
“Yn amlwg mae hynny'n gadael ychydig iawn ar ôl ar gyfer yr ystod o wasanaethau eraill y mae'r Cyngor yn eu darparu.
“Er bod y rhwystrau sy'n ein hwynebu yn enfawr, dyma sefyllfa rydym wedi bod yn paratoi ar ei chyfer ers tro, un y mae uwch swyddfeydd wedi bod yn gweithio i fynd i'r afael â hi ers misoedd lawer.
“Mae gan y Cyngor agenda trawsnewid uchelgeisiol yr ydym yn hyderus y bydd yn dod ag arbedion effeithlonrwydd ar draws y sefydliad, tra gall newidiadau i'r dreth gyngor a'r defnydd gofalus o gronfeydd wrth gefn hefyd helpu i bontio'r bwlch.
“Er hynny, mae hon yn sefyllfa hynod brofol a fydd yn golygu bod penderfyniadau anodd a digymunol pellach ar y blaen gan ei bod yn ffaith syml na fyddwn yn gallu cynnal yr holl wasanaethau ar lefelau presennol gyda llai o adnoddau.”
Ar hyn o bryd mae gweithgrwpiau cyllideb yn gweithredu ar draws holl feysydd y Cyngor i nodi arbedion.
Bydd y Cyngor yn cyhoeddi ei gynnig cyllideb fis nesaf, a fydd wedyn yn destun ymgynghoriad cyhoeddus.
Bydd hefyd yn cael ei ystyried gan bwyllgorau craffu cyn cytuno ar gyllideb gytbwys mewn cyfarfod o'r holl Gynghorwyr ym mis Mawrth.