Cost of Living Support Icon

 

Cyngor yn prydlesu tir i Ddinas Caerdydd mewn cytundeb gwerth £1.5 miliwn 

Bydd Cyngor Bro Morgannwg yn derbyn hwb ariannol gwerth £1.5 miliwn ar ôl prydlesu tir yn Hensol i Glwb Pêl-droed Dinas Caerdydd adeiladu canolfan hyfforddi newydd. 

  • Dydd Gwener, 09 Mis Awst 2024

    Bro Morgannwg



CCFC Training Ground 1

Cymeradwywyd caniatâd cynllunio ar gyfer y datblygiad, a fydd yn cynnwys codi 15 cae mewn ardal 44 erw gyferbyn â Hensol Villas.

 

Mae cais arall wedi'i gymeradwyo ar gyfer adeilad canolog deulawr, sy'n cynnwys campfa, pwll, ystafelloedd triniaeth a bwyta a maes parcio â 123 man parcio.

Hefyd, byddai terasau gwylwyr ar gyfer gwylio caeau'r tîm cyntaf i'r gorllewin o'r maes hyfforddi ac ar gyfer caeau'r academi i'r dwyrain. 

 

Mae'r swm ariannol sylweddol yn hwb mawr i'r Cyngor wrth iddo geisio goresgyn sefyllfa gyllidebol heriol a achosir yn bennaf gan lai o gyllid ochr yn ochr â chynnydd mewn costau ynni, chwyddiant a chyfraddau llog.

 

CCFC Training Ground 2Mae un rhandaliad o £500,000 eisoes wedi'i dderbyn, a disgwylir un arall pan fydd y gwaith yn dechrau ac un arall pan fydd y datblygiad wedi'i gwblhau.

Dywedodd y Cynghorydd Lis Burnett, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg: "Mae'r prosiect hwn wedi bod ar y gweill ers nifer o flynyddoedd, felly rwy'n falch iawn ein bod bellach wedi dod i gytundeb ynghylch prydles y tir. 

 

"Bydd yn cynnig cyfle i Ddinas Caerdydd adeiladu cyfleuster o'r radd flaenaf a all fod o fudd i'w thimau cyntaf ac ieuenctid. 

 

"I'r Cyngor, mae'r incwm sylweddol a ddaw yn sgil y cytundeb hwn i'w groesawu ar adeg pan mae Awdurdodau Lleol ledled y wlad yn ei chael hi'n fwyfwy anodd cydbwyso'r llyfrau.

 

"Mae'n rhaid i ni chwilio am arbedion effeithlonrwydd, ffyrdd newydd creadigol ac arloesol o weithio a hefyd bod yn graff o ran masnach mewn perthynas â tharo bargeinion busnes.   Mae hyn yn dangos yr olaf o'r dulliau hynny'n berffaith."