Cost of Living Support Icon

 

Y Cynghorydd Birch yn llongyfarch myfyrwyr Safon Uwch

Mae’r Cynghorydd Rhiannon Birch, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Addysg, y Celfyddydau a'r Gymraeg, wedi llongyfarch myfyrwyr ar eu canlyniadau Safon Uwch.

 

  • Dydd Iau, 15 Mis Awst 2024

    Bro Morgannwg



Derbyniodd disgyblion chweched dosbarth ar draws y Sir eu graddau Safon Uwch ac Uwch Gyfrannol heddiw a gallant nawr ddechrau cynllunio cam nesaf eu taith addysg neu i fyd cyflogaeth.

Cllr Rhiannon Birch"Hoffwn rannu fy nymuniadau gorau i holl fyfyrwyr y Fro a dderbyniodd eu canlyniadau Safon Uwch ac Uwch Gyfrannol heddiw," meddai'r Cynghorydd Birch.

 

"Llongyfarchiadau i'r nifer sy'n dathlu ar ôl perfformiad ardderchog arall i'r Sir. Mae llawer o ymdrech wedi mynd i gyflawni'r llwyddiant hwn, felly rwy'n gobeithio y bydd ein disgyblion chweched dosbarth yn mwynhau’r foment.

 

"Mae llawer iawn o waith caled hefyd yn cael ei wneud gan athrawon a staff ysgolion, ynghyd â chefnogaeth gan rieni, ac mae'r grwpiau hyn hefyd yn haeddu cydnabyddiaeth ar adeg fel hon.

 

"Byddwn yn annog disgyblion i fwynhau eu cyflawniadau, a beth bynnag y byddant yn ei wneud, rwy'n dymuno pob llwyddiant iddynt i’r dyfodol.

 

"Wrth gwrs, ni fydd pawb wedi cael y canlyniadau yr oeddent yn dymuno eu cael. I unrhyw un yn y sefyllfa honno, mae cymorth a gwybodaeth ar gael gan Gyd-bwyllgor Addysg Cymru a Llywodraeth Cymru."