Cost of Living Support Icon

 

Cyngor Bro Morgannwg yn derbyn dau adroddiad arolygu canmoliaethus gan Estyn

Mae Cyfarwyddiaeth Dysgu a Sgiliau Cyngor Bro Morgannwg wedi cael ei chanmol yn helaeth yn dilyn arolygiadau diweddar.

 

  • Dydd Mawrth, 30 Mis Ebrill 2024

    Bro Morgannwg



 

Asesodd Estyn, arolygiaeth addysg a hyfforddiant Cymru, y gwasanaeth addysg llywodraeth leol a ddarperir gan y Gyfarwyddiaeth a'r Gwasanaeth Ieuenctid, sydd o’i fewn.

 

Cafodd y ddau adolygiadau rhagorol, gyda pherfformiad pob un a'r ddarpariaeth a gynigir i ddisgyblion a phobl ifanc wedi creu argraff ar yr arolygwyr.

 

Dwedodd Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Addysg, y Celfyddydau a'r Gymraeg, y Cyng Rhiannon Birch:  "Mae'r ddau adroddiad arolygu rhagorol hyn yn dyst i'r staff sy'n gweithio yn y Gwasanaeth Ieuenctid ac, yn ehangach, ein Cyfarwyddiaeth Dysgu a Sgiliau.

 

"Rwyf wrth fy modd bod Estyn wedi cydnabod eu gwaith caled wrth i mi weld yr ymroddiad, yr angerdd a'r ysgogiad hwn yn ddyddiol.

 

"Daw'r ymrwymiad hwnnw o awydd dwfn i gynnig y llwyfan gorau i blant a phobl ifanc yn y Fro ar gyfer llwyddiant.

"Mae'r adroddiad hwn yn dyst i'r ymdrechion hynny. Hoffwn fynegi fy niolch diffuant i bob un sy'n ymwneud â Dysgu a Sgiliau a'r Gwasanaeth Ieuenctid. Mae eich gwaith yn cael effaith gadarnhaol iawn ar fywydau pobl ifanc yn ein cymunedau."

 

Mae'r adroddiad gan y gwasanaeth addysg llywodraeth leol, a gyhoeddwyd heddiw, yn datgan: "Mae swyddogion yn cyflawni eu rôl yn ddiwyd ac maent wedi ymrwymo i sicrhau bod gan bob plentyn a pherson ifanc yn y Fro fynediad at addysg a chymorth o ansawdd uchel... 

 

"Mae'r Awdurdod Lleol yn darparu cefnogaeth gref i'w ysgolion mewn perthynas â chefnogi disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol ac mae swyddogion wedi gweithio'n dda i gynllunio'n strategol a darparu cymorth i ysgolion baratoi ar gyfer Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cymru) a’r Tribiwnlys Addysg (ADYTA). Yn ogystal, mae'r gefnogaeth i ysgolion wella presenoldeb disgyblion yn effeithiol ar y cyfan. Mae'r Awdurdod Lleol yn defnyddio ystod eang o ddata ac yn gweithio'n agos gydag ysgolion a theuluoedd, ac mae presenoldeb yn gwella.

 

"Mae aelodau, uwch arweinwyr a swyddogion wedi ymrwymo i leihau effaith tlodi ar blant a phobl ifanc ac mae gwaith yn y maes hwn wedi canolbwyntio'n agos ar wella lles, cefnogi teuluoedd a mynd i'r afael ag ansicrwydd bwyd.

 

"Mae gweithio ar draws cyfarwyddiaethau yn gryfder nodedig yng ngwaith yr Awdurdod Lleol. Mae'r uchelgeisiau cyffredin a chynllunio ar draws cyfarwyddiaethau wedi sicrhau gweithio'n effeithiol ar draws yr holl gyfarwyddiaethau sydd wedi cefnogi gwasanaethau addysg yn dda. Mae hyn wedi helpu'r Awdurdod Lleol i flaenoriaethu cyllid ar gyfer addysg a gweithio ar y cyd......"

 

Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys dau argymhelliad, sef "mireinio ffocws prosesau gwerthuso a gwella" a "gwella ansawdd a defnydd o wybodaeth am ddysgu ac addysgu mewn ysgolion er mwyn galluogi'r Awdurdod Lleol i gyfeirio ei adnoddau at feysydd i'w gwella yn y ffordd orau."

 

Roedd canmoliaeth debyg i'r gwasanaeth ieuenctid, gyda'r adroddiad i'w weithgareddau'n datgelu: "Drwy gymryd rhan yng ngweithgareddau gwasanaeth ieuenctid y Fro, mae llawer o bobl ifanc yn ennill y sgiliau, gwybodaeth, dealltwriaeth, agweddau a gwerthoedd i gefnogi eu datblygiad personol a'u lles eu hunain. Maent yn datblygu ystod eang o sgiliau yn ogystal ag ennill achrediad mwy ffurfiol trwy amrywiaeth o wobrau a chyfleoedd achredu lleol a chenedlaethol.

 

"Mewn sesiynau ysgol wedi'u targedu, mae pobl ifanc yn datblygu gwytnwch a sgiliau ymdopi sy'n gwella eu dysgu ffurfiol. Mae llawer nad ydynt wedi mwynhau llwyddiant o'r blaen yn magu hyder, yn ffurfio perthnasoedd gwell ac yn ystyried eu dyfodol.

 

"Mae pobl ifanc yn cymryd rhan yn frwdfrydig ac yn mynegi eu barn yn yr holl sesiynau yr ydym wedi'u harsylwi. Mae aelodau Cyngor Ieuenctid y Fro yn mynegi eu barn a'u safbwyntiau mewn modd soffistigedig a chytbwys. Mae'r bobl ifanc hyn yn datblygu dealltwriaeth gref o'r broses ddemocrataidd ac yn dod yn siaradwyr cyhoeddus medrus. Mae pobl ifanc eraill yn mynegi eu hunain trwy weithgareddau chwaraeon, prosiectau crefft ymladd a garddio. Maent yn dangos awydd i gyfrannu at ddeinameg y grŵp.

Mae llawer o bobl ifanc yn hyderus wrth fynegi eu hunaniaeth a'u safbwyntiau eu hunain tra hefyd yn dysgu gwerthfawrogi eraill. Maent yn dod yn eiriolwyr effeithiol dros eu hawliau, cynhwysiant a chyfiawnder cymdeithasol. Maent yn herio gwahaniaethu, yn hyrwyddo cydraddoldeb ac yn creu newid cadarnhaol o fewn eu grwpiau cyfoedion...

 

"Mae ansawdd y gwaith ieuenctid yn gyson uchel. Mae gweithwyr ieuenctid yn glir iawn ynghylch egwyddorion gwaith ieuenctid ac yn adlewyrchu hyn yn eu hymarfer. Maent yn ymroddedig i'w rolau, yn cyfathrebu'n effeithiol, yn meithrin perthynas gadarnhaol â phobl ifanc ac mae ganddynt lefelau uchel o egni a brwdfrydedd. Maent bob amser yn chwilio am ffyrdd i wella a mireinio eu gwaith. Mae'r rhai sy'n gweithio mewn lleoliadau ysgol yn uchel eu parch gan staff yr ysgol fel gweithwyr proffesiynol cyfartal. Maent yn cael eu gwerthfawrogi gan bobl ifanc a'u rhieni a'u gofalwyr.

 

"Mae gweithwyr ieuenctid yn asesu anghenion pobl ifanc sydd â heriau mwy cymhleth yn gyflym ac mae'r berthynas waith gadarnhaol o fewn ac ar draws y gwahanol dimau a phartneriaid yn golygu bod cefnogaeth yn brydlon ac effeithlon. Mae ganddynt yr agwedd, beth bynnag fo'r rhwystrau, na fyddant byth yn rhoi'r gorau iddi gyda pherson ifanc. Mae’r hyder ynddynt yn uchel ac maent yn chwarae rhan arwyddocaol yn cefnogi pobl ifanc sy'n ei chael hi'n anodd yn ogystal ag ymestyn cefnogaeth effeithiol i'r teulu ehangach…

 

"Mae gwasanaeth ieuenctid Bro Morgannwg wedi'i seilio'n gryf ar lais pobl ifanc ac ar ddarparu'r gefnogaeth sydd ei hangen arnynt i dyfu fel dinasyddion hyderus a gwybodus."

 

Dim ond un argymhelliad a wnaeth yr arolygwyr, sef "Datblygu cyfleoedd ar gyfer darpariaeth gwaith ieuenctid cyfrwng Cymraeg a dwyieithog."

 

Mae'r adborth hynod gadarnhaol hwn yn sicrhau y gall y Cyngor symud ymlaen o sefyllfa o gryfder wrth ddarparu'r gorau i'n plant a'n pobl ifanc.