Cost of Living Support Icon

 

Cyngor Bro Morgannwg yn sicrhau cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer mentrau diogelwch ffyrdd a theithio llesol gwell

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi sicrhau cyllid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer amryw fentrau trafnidiaeth, sy'n dod i gyfanswm o £3,759,954. 

  • Dydd Mawrth, 23 Mis Ebrill 2024

    Bro Morgannwg



Active travel Eglwys Brewis

Mae'r cyllid wedi’i roi i wella seilwaith teithio a diogelwch ffyrdd, sy’n cynnwys llwybrau cymunedol mwy diogel a theithio llesol gwell.

 

Mae'r cyllid Teithio Llesol yn cael ei ddyrannu ar gyfer prosiectau trafnidiaeth yn unig, a enillir drwy broses ymgeisio gystadleuol sy'n agored i awdurdodau lleol.

 

Bydd y buddsoddiad hwn yn galluogi gwelliannau hanfodol i seilwaith y rhanbarth, yn enwedig gwella diogelwch o amgylch ysgolion.  Mae'r prosiectau'n cynnwys gwelliannau i gerddwyr ger Ysgol Gynradd Sili a gwella troedffyrdd sy'n cysylltu ysgolion, siopau, a hybiau trafnidiaeth. 

 

Yn ogystal, bydd y cyllid yn cefnogi gweithredu cau strydoedd ysgol ar adegau penodol a chreu llwybrau teithio llesol, gan hyrwyddo opsiynau trafnidiaeth mwy diogel a chynaliadwy.

Pwysleisiodd Mark Wilson, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdogaethau ac Adeiladu arwyddocâd y gwelliannau hyn ar gyfer diogelwch ysgolion, gan nodi:  "Mae cynnig llwybrau trafnidiaeth gwell i ac o ysgolion yn hollbwysig er diogelwch disgyblion a rhieni sy'n defnyddio'r rhain yn rheolaidd. 

 

"Mae'r buddsoddiad hwn yn tanlinellu ein hymrwymiad i wella seilwaith trafnidiaeth yn y Fro, gan sicrhau bod gan aelodau ein cymuned lwybrau diogel a hygyrch i sefydliadau addysgol."

 

Active travel Station Road

Ychwanegodd y Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Leoedd Cynaliadwy, Bronwen Brooks:  "Mae'r gwelliannau i'n llwybrau teithio llesol nid yn unig yn cyd-fynd â'n menter Prosiect Sero ond hefyd yn gam sylweddol ymlaen tuag at hyrwyddo dulliau trafnidiaeth ecogyfeillgar.

 

"Drwy flaenoriaethu opsiynau teithio cynaliadwy, rydym nid yn unig yn lleihau ein hôl troed carbon ond hefyd yn sicrhau cymuned iachach a mwy bywiog am genedlaethau i ddod. 

 

"Mae'r buddsoddiad hwn yn tanlinellu ein hymrwymiad diwyro i gynaliadwyedd a'n hymrwymiad i greu dyfodol gwyrddach a mwy cynaliadwy i'r Fro."

 

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â activetravel@valeofglamorgan.gov.uk.