Cartref Gofal Cyngor Bro Morgannwg yn sefydlu partneriaeth â Tîm Gwneud Iawn â’r Gymuned Gwasanaeth Prawf Cymru
Fel rhan o'u rhaglen Gwneud Iawn â’r Gymuned, mae'r Gwasanaeth Prawf wedi bod yn gweithio gyda Chartref Preswyl Southway, Y Bont-faen, i wneud gwaith trawsnewidiol i'r cartref gofal.
Yn ddiweddar, sicrhaodd y cartref gofal a gynhelir gan y Cyngor gyllid gan Gynghrair Cyfeillion i drawsnewid yr ardd ar eu heiddo.
Gyda'r cyllid, llwyddodd y cartref gofal i ofyn am gefnogaeth y tîm Gwneud Iawn â’r Gymuned i wneud gwaith tirlunio.
Roedd y gwaith yn cynnwys cloddio tywyrch ac ailblannu glaswellt newydd, i greu amgylchedd diogel o gwmpas ardal y llwybr. Mae gan y tîm gynlluniau hefyd i adfer meinciau pren yn ardal yr ardd i'r preswylwyr eu defnyddio.
Dyma'r enghraifft ddiweddaraf o weithio mewn partneriaeth rhwng y Cyngor a'r Gwasanaeth Prawf
Meddai Robert Robbins, Rheolwr Gweithrediadau Gwneud Iawn â’r Gymuned ar gyfer Caerdydd a'r Fro: "Mae wedi bod yn gyfle gwych i weithio gyda Chartref Preswyl Southway ar y prosiect hwn.
"Rydym yn gobeithio mai dechrau’r bartneriaeth gwerth chweil yn unig yw hyn rhwng y tîm Gwneud Iawn â’r Gymuned, Cartref Preswyl Southway, a Chyngor Bro Morgannwg.
"Yn y dyfodol, gallwn helpu Southway gyda gwaith cynnal a chadw pellach a chyflawni prosiectau preswyl pellach yn y Fro yn y dyfodol."

Dywedodd Marijke Jenkins, Rheolwr Gweithredol Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghyngor Bro Morgannwg: "Mae'r gwaith a wnaed yng Nghartref Preswyl Southway gan y Tîm Gwneud Iawn â’r Gymuned wedi bod yn rhagorol.
"Bydd trawsnewid yr ardd yn gwneud cymaint o wahaniaeth i ddefnyddwyr ein gwasanaeth, gyda gardd sy'n fwy tawel a hygyrch i breswylwyr.
"Rydym yn gobeithio cydweithio gyda'r Gwasanaeth Gwneud Iawn â’r Gymuned ar brosiectau pellach, nid yn unig yn Southway, ond mewn cartrefi preswyl ledled y Fro."
Mae Gwasanaeth Gwneud Iawn â’r Gymuned Caerdydd a'r Fro eisoes yn cefnogi llawer iawn o waith cynnal a chadw o fewn tai gwarchod gyda Chyngor Dinas Caerdydd, ac yn gobeithio y bydd y gwaith tirlunio yng Nghartref Preswyl Southway yn ddechrau ar bartneriaeth fuddiol gyda Chyngor y Fro.
Mae'r tîm yn gobeithio cynorthwyo'r cartref gofal gyda gwaith pellach gan gynnwys addurno mewnol. Byddant hefyd yn rhoi cymorth i Gartref Preswyl Tŷ Dewi Sant, ym Mhenarth, i dacluso eu mannau gwyrdd allanol.