Cost of Living Support Icon

 

Mae’r dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am brawf adnabod pleidleisiwr am ddim ar gyfer Etholiad Comisiynydd Heddlu a Throseddu yn prysur agosáu

Mae'r amser i wneud cais i gael ID pleidleisiwr am ddim cyn etholiadau mis Mai yn prinhau. Bydd angen i unrhyw un nad oes ganddo/ganddi fath o ID a dderbynnir wneud cais cyn y dyddiad cau am 5pm ar 24 Ebrill.

  • Dydd Gwener, 12 Mis Ebrill 2024

    Bro Morgannwg



Im registered to vote cymraegAm y tro cyntaf, bydd angen i bleidleiswyr yn/yng/ym Bro Morgannwg ddangos ID ffotograffig er mwyn cael eu papur pleidleisio yn yr etholiadol lleol ar 2 Mai.

 

Gall y rhai nad oes ganddynt fath o ID a dderbynnir wneud cais ar-lein am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr, yn www.gov.uk/ceisio-am-lun-id-tystysgrif-awdurdod-pleidleiswyr neu drwy wneud cais am ffurflen bapur a'i chyflwyno i Cyngor Bro Morgannwg, Swyddfeydd Dinesig, Heol Holton, Y Barri, Bro Morgannwg CF63 4RU. Rhaid i ymgeiswyr fod wedi'u cofrestru i bleidleisio a bydd angen iddynt ddarparu eu dyddiad geni, eu rhif Yswiriant Gwladol a ffotograff.

 

Nid oes angen i'r rhai sydd â math o ID a dderbynnir wneud cais. Ymysg y mathau o ID a dderbynnir mae pasbort y DU, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd neu'r Gymanwlad; trwydded yrru'r DU neu AEE; a rhai cardiau teithio rhatach, megis pàs bws person hŷn neu gerdyn Oyster 60+. Bydd pleidleiswyr yn gallu defnyddio ID sydd wedi dirwyn i ben os gellir eu hadnabod o'r ffotograff o hyd.

 

Dywedodd Jackie Killeen, Cyfarwyddwr Gweinyddu Etholiadau a Chanllawiau y Comisiwn Etholiadol:“Bydd yn ofynnol i bleidleiswyr ddangos ID ffotograffig mewn gorsafoedd pleidleisio yn yr etholiadau ym mis Mai.

 

"Mae argaeledd ID am ddim yn helpu i sicrhau bod etholiadau yn parhau'n hygyrch i bob pleidleisiwr cymwys. Mae'n hanfodol bod y rhai nad oes ganddynt y math o ID sydd ei angen arnynt yn gwneud cais cyn y dyddiad cau er mwyn iddynt allu pleidleisio yn yr orsaf bleidleisio. Mae'r dyddiad hwnnw yn prysur nesáu, felly peidiwch ag oedi.”

 

Dywedodd Rob Thomas, y Swyddog Canlyniadau yn Cyngor Bro Morgannwg: “Wrth i'r dyddiad cau ar gyfer gwneud cais i gael ID am ddim agosau, mae'n bwysig bod preswylwyr Bro Morgannwg yn gwneud yn siŵr eu bod yn barod am yr etholiad.

 

"Os bydd angen unrhyw help arnoch i wneud cais i gael ID pleidleisiwr am ddim, neu os byddwch am gael ffurflen gais, gallwch gysylltu â'r tîm gwasanaethau etholiadol ar 01446 709552, e-bost : electoralregistration@valeofglamorgan.gov.uk neu www.valeofglamorgan.gov.uk/cy/index.aspx