Cost of Living Support Icon

 

Dyfarnu achrediad ansawdd cenedlaethol i Wasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd y Cyngor

Mae Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Cyngor Bro Morgannwg wedi ennill Gwobr Ansawdd Teuluoedd yn Gyntaf.

 

  • Dydd Gwener, 19 Mis Ebrill 2024

    Bro Morgannwg



FIS team with quality award

Mae’r Wobr genedlaethol yn cydnabod Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd (GGiD) sy’n dangos rhagoriaeth wrth roi gwybodaeth, cyngor a chymorth i deuluoedd lleol.

 

Ar ôl asesiad manwl, daeth tîm y Fro y trydydd GGiD yng Nghymru i gyflawni’r achrediad hwn.

 

Fel rhan o’r asesiad, bu rhaid i’r tîm ddangos tystiolaeth o 16 o safonau, gan gynnwys sut roedd y gwasanaeth yn cefnogi teuluoedd plant ag anableddau.

 

Mae Mynegai’r GGiD yn rhoi cymorth i blant a phobl ifanc ag anableddau ac anghenion ychwanegol, a nodwyd hwn yn gryfder yn adroddiad yr aseswr ar ôl cyfweld â gofalwyr a rhieni’r rheiny ag anghenion cymhleth.

Dywedodd un rhiant: “Mae gen i ddau blentyn ag anableddau. Gallaf gael gafael ar y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd drwy wahanol gyfryngau, sy’n dda i fi, achos mae gen i awtistiaeth ac anableddau hefyd.

 

“Ges i help gan y GGiD gyntaf gyda gwybodaeth am sut i gael addasiadau rhesymol yn yr ysgol i fy mhlant, ac ers hynny, rydw i wedi gallu cael gafael ar grantiau drwy’r Mynegai.

 

“Maen nhw bob amser yn cysylltu â fi ar ôl fy ngalwadau i holi a oes angen help arna’ i o hyd, sy’n wych pan rydych chi’n niwroamrywiol.

 

“Maen nhw’n ymgyrchu ar fy rhan, yn gwneud i fi deimlo bod fy llais yn cael ei glywed ac yn fy ngrymuso.”

Roedd yr adroddiad hefyd yn canmol gwaith partneriaeth y tîm wrth ddarparu gwasanaeth allgymorth i rieni yn y gymuned. Cafodd Parti Nadolig i Deuluoedd y GGiD, a groesawodd dros 700 o westeion, ei nodi’n gyfle ardderchog i rieni gysylltu â rhieni eraill a dysgu am y cymorth lleol sydd ar gael iddynt.

Dywedodd y Cynghorydd Eddie Williams, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd: “Rwyf wrth fy modd bod gwaith arbennig y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd wedi cael ei gydnabod gan achrediad ansawdd cenedlaethol.

 

“Mae’r gwasanaeth yn chwarae rhan hanfodol wrth atgyfeirio teuluoedd a phobl ifanc yn y Fro at gyngor a chymorth, yn aml yn trawsnewid eu hiechyd a lles.

 

“Mae’r adborth llawn canmoliaeth gan ddefnyddwyr gwasanaeth a phartneriaid yn dyst i hyn.

 

“Diolch o galon a llongyfarchiadau i dîm y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd.”

Mae gwybodaeth am y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd a’r cymorth y mae’n ei gynnig ar gael ar wefan Cyngor Bro Morgannwg.