Cost of Living Support Icon

 

Dwy ysgol ragorol yng Nghymru wedi cyrraedd y 3 uchaf ar gyfer $250,000 o Wobrau Ysgol Orau'r Byd 2023

  • Ysgol Gynradd Tregatwg yn cyrraedd y 3 uchaf ar gyfer Gwobr Ysgol Orau'r Byd am Oresgyn Trallod 2023

  • Coleg Chweched Dosbarth Caerdydd yn cyrraedd y 3 uchaf ar gyfer Gwobr Ysgol Orau'r Byd am Gefnogi Bywydau Iach 2023

  • Jeremy Miles, Gweinidog Addysg a'r Gymraeg Llywodraeth Cymru, yn llongyfarch y ddwy ysgol.

  • Dydd Mawrth, 12 Mis Medi 2023

    Bro Morgannwg

Cadoxton primary award pictureMae dwy ysgol ragorol yn y DU - y ddwy am y tro cyntaf yng Nghymru - wedi'u henwi gyda’r 3 uchaf ar gyfer y $250,000 o Wobrau Ysgol Orau'r Byd 2023. Pum Gwobr Ysgol Orau'r Byd, a sefydlwyd y llynedd gan T4 Education mewn cydweithrediad ag Accenture, American Express, Yayasan Hasanah, a Sefydliad Lemann, yw gwobrau addysg mwyaf blaenllaw’r byd.

 

Mae Ysgol Gynradd Tregatwg, ysgol wladol yn y Barri, Cymru, y DU, sydd wedi trawsnewid bywydau ei phlant ac wedi dod yn esiampl i'w chymuned ddifreintiedig trwy siop 'talu faint bynnag a fynnwch' arloesol i fynd i'r afael â thlodi bwyd yng nghanol yr argyfwng costau byw, wedi cyrraedd y 3 uchaf ar gyfer Gwobr Ysgol Orau'r Byd am Oresgyn Trallod 2023.

 

Dwedodd y Cynghorydd Lis Burnett, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg:  "Hoffwn longyfarch Ysgol Gynradd Tregatwg a hoffwn ddymuno pob llwyddiant iddynt wrth i'r gystadleuaeth gyffrous hon gyrraedd ei huchafbwynt.

 

"Beth bynnag yw'r canlyniad, does dim amheuaeth am yr effaith sylweddol a pharhaol y mae mentrau cymunedol yr ysgol wedi'i chael ar y rhai sy'n byw yn lleol.

 

"Yn ystod y pandemig a'r argyfwng costau byw canlynol, cyfnod oedd mor heriol i lawer, roedd staff a disgyblion Ysgol Gynradd Tregatwg yno i gynnig cymorth.

 

"P'un ai’n creu parseli bwyd, yn lansio'r siop talu faint bynnag a fynnwch neu'r golchdy cymunedol, mae ymdrechion yr ysgol wedi gwneud gwahaniaeth go iawn ac yn cael eu gwerthfawrogi gan gymaint o bobl.

 

“Da iawn wir bawb. Fel Awdurdod lleol, rydym mor falch o'ch cyflawniadau fel y mae Bro Morgannwg gyfan dwi’n siŵr."  

 

Mae Coleg Chweched Dosbarth Caerdydd, ysgol ryngwladol annibynnol yng Nghaerdydd, Cymru, y DU, sydd wedi chwyldroi'r ffordd y mae ei fyfyrwyr Safon Uwch yn ystyried eu hiechyd meddyliol a chorfforol, wedi cyrraedd y 3 uchaf ar gyfer Gwobr Ysgol Orau'r Byd am Gefnogi Bywydau Iach 2023.

 

Cafodd y ddwy ysgol eu llongyfarch gan Jeremy Miles, Gweinidog Addysg a'r Gymraeg Llywodraeth Cymru.

 

Mae'r pum Gwobr Ysgol Orau’r Byd - ar gyfer Cydweithio Cymunedol, Gweithredu Amgylcheddol, Arloesi, Goresgyn Trallod, a Chefnogi Bywydau Iach - yn dathlu ysgolion ym mhobman am eu rôl ganolog  yn datblygu'r genhedlaeth nesaf o ddysgwyr ac am eu cyfraniad enfawr i gynnydd cymdeithas, yn enwedig yn sgil COVID. Sefydlwyd y Gwobrau i rannu arferion gorau ysgolion sy'n trawsnewid bywydau eu myfyrwyr ac yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'w cymunedau.

 

Bydd enillwyr y pum Gwobr yn cael eu dewis gan Academi Feirniadu arbenigol yn seiliedig ar feini prawf trylwyr. Yn ogystal, mae T4 Education wedi lansio Gwobr Dewis Cymunedol newydd eleni – sy'n agored i'r 15 ysgol sy'n ffurfio'r 3 uchaf yn y rownd derfynol ar draws bob un o'r pum Gwobr Ysgol Orau’r Byd – ac yn cael ei rhoi i'r un ysgol sy'n ysbrydoli'r gefnogaeth fwyaf mewn Pleidlais Gyhoeddus, a agorodd heddiw. Bydd enillydd y Wobr Dewis Cymunedol yn derbyn aelodaeth i raglen newydd T4 Education,Ysgol Orau i Weithio Ynddi, dull annibynnol, sy'n seiliedig ar dystiolaeth, i ardystio ysgolion am eu diwylliant a'u helpu i drawsnewid eu hamgylchedd gwaith i ddenu a chadw'r athrawon gorau. 

 

Dywedodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg Llywodraeth Cymru:

 

"Mae'n wych gweld dwy ysgol yng Nghymru yn rownd derfynol y wobr hon. Rwyf mor falch o'r gwaith pwysig y mae Ysgol Gynradd Tregatwg yn ei wneud i gefnogi disgyblion a theuluoedd.Mae'r ysgol wedi bod yn rhan fawr o helpu Llywodraeth Cymru i ddod o hyd i'r ffyrdd gorau o fynd i'r afael ag effaith tlodi ar gyflawniad addysgol. Llongyfarchiadau i Goleg Chweched Dosbarth Caerdydd hefyd, mae'n wych clywed sut mae eu myfyrwyr wedi bod yn canolbwyntio ar eu hiechyd corfforol a meddyliol - blaenoriaeth bwysig i bob ysgol yng Nghymru. Pob lwc bawb!”

 

Dywedodd Vikas Pota, sylfaenydd T4 Education a Gwobrau Ysgol Orau'r Byd:

 

“Llongyfarchiadau i Ysgol Gynradd Tregatwg a Choleg Chweched Dosbarth Caerdydd ar gael eu henwi gyda’r 3 uchaf yn y rownd derfynol ar gyfer Gwobrau Ysgol Orau'r Byd 2023. Rydych chi, a'ch cyd-ymgeiswyr, wedi fy ysbrydoli gyda'r arweinyddiaeth, y weledigaeth a'r diwylliant rydych chi wedi'u meithrin ac am yr amgylchedd addysgu a dysgu eithriadol rydych chi wedi'i ddatblygu. 

 

"Wrth i'r byd geisio mynd i'r afael ag argyfwng addysg sy'n dyfnhau, mae'r ysgolion eithriadol hyn yng Nghymru yn goleuo'r llwybr i ddyfodol gwell. Mae'n bryd i lywodraethau ym mhobman wrando ar eich lleisiau a dysgu o'ch arbenigedd."

 

Ynglŷn â’r Ysgolion:

 

Mae Ysgol Gynradd Tregatwg, ysgol wladol yn y Barri, Cymru, y DU, wedi trawsnewid bywydau ei phlant ac wedi dod yn esiampl i'w chymuned ddifreintiedig trwy siop 'talu faint bynnag a fynnwch' arloesol i fynd i'r afael â thlodi bwyd yng nghanol yr argyfwng costau byw, a rhaglenni i ymgysylltu teuluoedd â dysgu myfyrwyr. Mae gan dri deg pump y cant o ddisgyblion hawl i brydau ysgol am ddim - sy'n llawer uwch na'r cyfartaledd cenedlaethol - ac mae gan 40% anghenion dysgu ychwanegol. Ond er bod bron pob un o'r plant sy'n cofrestru yn Ysgol Gynradd Tregatwg yn dechrau islaw y lefel ddisgwyliedig, mae bron pob un wedi cyrraedd y lefel ddisgwyliedig erbyn iddynt adael yr ysgol gyda hanner y tu hwnt iddi. 

 

O dan y Pennaeth Gweithredol Janet Hayward OBE, mae Ysgol Gynradd Tregatwg yn cysylltu teuluoedd a'r gymuned er lles pawb. Mae'r plant, rhieni a gwirfoddolwyr yn rhedeg siop fwyd 'talu faint bynnag a fynnwch' mewn hen gynhwysydd llongau y tu allan i ganolfan gymunedol yr ysgol, gan gynnig bwyd maethlon fyddai fel arall yn cael ei daflu i ffwrdd gan archfarchnadoedd. Mae llwyddiant y prosiect yn mynd i'r afael â thlodi bwyd wrth addysgu myfyrwyr i fynd i'r afael â gwastraff wedi arwain at Ysgol Gynradd Tregatwg, gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru, yn cynorthwyo dros 60 o ysgolion eraill ledled De Cymru i sefydlu eu siopau Bocs Bwyd Mawr eu hunain i helpu teuluoedd yn yr argyfwng costau byw.

 

Mae rhaglen llythrennedd bwyd Ysgol Gynradd Tregatwg, sy'n helpu teuluoedd i ddeall pwysigrwydd bwyd mewn lles corfforol a meddyliol, yn cynnal sesiynau Cawl a Chân lle mae plant a rhieni’n canu caneuon ac yn dysgu coginio prydau maethlon y maent wedyn yn eu gweini i aelodau hŷn o'r gymuned. 

 

Yn allweddol i lwyddiant Ysgol Gynradd Tregatwg mae ei rhaglenni i ennyn diddordeb aelodau'r teulu yn nheithiau dysgu plant. Mae’r prosiectau sy’n targedu anghenion penodol teuluoedd yn cynnwys cael DUGs (Tadau, Ewythrod a Theidiau) i gymryd rhan mewn gweithgareddau; FRED - Tadau'n Darllen Bob Dydd i'w Plant; a Dydd Mawrth Triw – sesiynau lles yn cynnwys gweithgaredd corfforol, cyngor ar fwyta'n iach a chymorth iechyd meddwl. Mae rhaglenni yn cael rhieni i dreulio amser 1:1 â chymorth gyda'u plant, tra bod rhieni’n cael profiad dair gwaith y flwyddyn o ddysgu ochr yn ochr â'u plentyn yn yr ystafell ddosbarth, gan eu galluogi i gynorthwyo eu plant yn well gartref. Mae ymgysylltu rhieni fel hyn wedi gweld gwelliannau sylweddol mewn cyrhaeddiad a lles.

 

Os bydd Ysgol Gynradd Tregatwg yn ennill Gwobr Ysgol Orau'r Byd am Oresgyn Trallod, bydd yn defnyddio'r arian i ddatblygu ac arallgyfeirio ei hadeiladau, gan gynnwys ei neuadd chwaraeon, i greu mannau aml-ddefnydd i wasanaethu'r gymuned.

 

Mae Coleg Chweched Dosbarth Caerdydd, ysgol ryngwladol annibynnol yng Nghaerdydd, Cymru, y DU, wedi chwyldroi'r ffordd y mae ei fyfyrwyr Safon Uwch rhagorol yn ystyried eu hiechyd meddyliol a chorfforol. Trwy bortffolio CREATE© arloesol yr ysgol, mae myfyrwyr nid yn unig yn cyflawni rhagoriaeth academaidd ond maent hefyd yn datblygu'r gwytnwch a'r cydbwysedd sydd eu hangen i lwyddo mewn bywyd. Mae dros naw o bob 10 disgybl yn teimlo bod y Coleg wedi rhoi sgiliau gwerthfawr iddynt y byddant yn gallu eu defnyddio drwy gydol Addysg Uwch a thu hwnt, gan gynyddu eu hymdeimlad o les a chaniatáu iddynt ddatblygu mewn meysydd na fyddent wedi cael cyfle i wneud o'r blaen. Mae'r datrysiad pwrpasol hwn wedi gosod safon newydd yn y diwydiant addysg, gan osod Coleg Chweched Dosbarth Caerdydd fel arloeswr ym maes lles myfyrwyr. 

 

Mae Coleg Chweched Dosbarth Caerdydd yn aml ar frig tablau cynghrair ysgolion ar gyfer Safon Uwch ac roedd yr ysgol yn cydnabod y byddai angen iddi fod yn hynod o ragweithiol wrth ddarparu cydbwysedd, datblygu gwytnwch, a sicrhau cysondeb o ran ymdrin â dyfodol iach. Dyluniwyd Portffolio CREATE© yr ysgol i gael y cydbwysedd hwn. Mae pob un o chwe maes allweddol y portffolio yn cynrychioli llythyren o'r gair CREATE yn Saesneg – Cymuned, Parch, Ymgysylltu, Gweithredol, Ffynnu a Chyfoethogi – ac mae gan bob maes allweddol ei thema ei hun, fel bod yn egnïol, gwytnwch, a hunanofal, sy'n gysylltiedig â mentrau iechyd meddwl lleol a chenedlaethol a modelau seicoleg cadarnhaol.

 

Mae myfyrwyr yn dewis meysydd penodol yn seiliedig ar feysydd o'u bywydau yr hoffent eu datblygu ymhellach ac yna’n cael tasgau penodol, fel gwirfoddoli, y maent yn cael pwyntiau amdanynt dros y ddwy flynedd. Nod dyfarnu pwyntiau yw i annog ymgysylltu. Oherwydd natur amlddiwylliannol fawr y coleg, roedd safbwyntiau byd-eang ar les ac iechyd meddwl hefyd wedi'u hymgorffori yn y rhaglen i'w gwneud yn fwy perthnasol i bob dysgwr. 

 

Yn ogystal â gwella lles myfyrwyr, mae'r rhaglen wedi arwain myfyrwyr eu hunain i estyn allan i'r gymuned leol gyda'u mentrau cymorth a lles eu hunain, fel tiwtora disgyblion difreintiedig a gwasanaeth cynghori am ddim ar wneud cais i brifysgolion yn y DU. 

 

Os bydd Coleg Chweched Dosbarth Caerdydd yn ennill Gwobr Ysgol Orau'r Byd am Gefnogi Bywydau Iach, mae'r ysgol yn bwriadu defnyddio arian y wobr i ddatblygu rhaglen Portffolio CREATE© ymhellach, yn yr ysgol a chyda'i chymuned ehangach, wrth barhau i gefnogi iechyd meddwl a lles ei myfyrwyr er mwyn cynnal rhagoriaeth academaidd.

 

Camau nesaf: 

 

Bydd enillydd pob un o bum Gwobr Ysgol Orau'r Byd yn cael ei gyhoeddi ym mis Tachwedd. Bydd enillydd pob Gwobr yn cael ei ddewis yn seiliedig ar y meini prawf trwyadl gan Academi Feirniadu sy'n cynnwys arweinwyr nodedig ar draws y byd gan gynnwys academyddion, addysgwyr, sefydliadau anllywodraethol, entrepreneuriaid cymdeithasol, llywodraeth, cymdeithas sifil, a'r sector preifat. 

 

Bydd gwobr o $250,000 yr UD yn cael ei rhannu'n gyfartal ymhlith enillwyr y pum Gwobr, gyda phob un yn derbyn gwobr o $50,000 yr UD. 

 

Bydd enillydd y Wobr Dewis Cymunedol newydd - a ddewisir trwy Bleidlais Gyhoeddus - yn cael ei gyhoeddi ar yr un pryd. Gellir rhoi'r Wobr Dewis Cymunedol i unrhyw un sydd wedi cyrraedd y 3 uchaf sy'n derbyn y nifer fwyaf o bleidleisiau cyhoeddus, p’un ai eu bod yn ennill un o bum Gwobr Ysgol Orau'r Byd neu beidio.

 

Bydd pob un o'r 3 uchaf yn rhannu eu harferion gorau drwy roi Pecynnau Cymorth Trawsnewid Ysgolion a digwyddiadau ar ap T4 Communities.

 

YNGLŶN Â T4 EDUCATION:

 

Credwn fod pob plentyn ym mhobman yn haeddu addysg dda. Rydym yn datblygu cymuned fwya’r byd o athrawon ac ysgolion i gyflawni hyn. Gyda’n gilydd. Mae ein platfform cyfryngau digidol yn rhoi cyfleoedd i addysgwyr rwydweithio, cydweithio, rhannu arferion da, a chefnogi ymdrechion ei gilydd i wella dysgu a diwylliant ysgol. Rydym yn gweithio i gynyddu lleisiau athrawon oherwydd dim ond trwy wrando ar y rhai sydd yn ganolog i addysg y  gallwn greu’r byd yr ydym am ei weld.

 

Mae ein cymuned fyd-eang o dros 200,000 o athrawon a'n platfform cyfryngau digidol yn gyfrwng i sefydliadau gynnal gwobrau addysg sy’n torri trwodd yn y cyfryngau rhyngwladol ac ymwybyddiaeth y cyhoedd. 

 

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Salman Shaheen: salman@t4.addysg