Cost of Living Support Icon

 

Cynlluniau ar gyfer Gwaith Mawr i Ganolfan Hamdden Penarth

MAE Cyngor Bro Morgannwg yn buddsoddi mwy na £2 filiwn i uwchraddio'r to a'r cladin allanol yng Nghanolfan Hamdden Penarth. 

 

  • Dydd Gwener, 01 Mis Medi 2023

    Bro Morgannwg

    Penarth



Bydd gwaith ar y prosiect yn digwydd mewn tri cham dros gyfnod o fisoedd er mwyn lleihau'r effaith ar ddefnyddwyr canolfannau hamdden. 


Bydd yn dod â'r adeilad, a reolir gan Legacy Leisure, i safonau modern o inswleiddio thermol, fydd yn cadw gwres yn well. 


Bydd mwy o olau dydd hefyd yn gallu mynd i mewn, gyda gwelliannau'n cael eu gwneud i oleuadau'r to i gynyddu perfformiad. 

 

penarth leisure centre

Bydd contractwyr ar y safle o ddechrau'r wythnos nesaf i osod sgaffaldiau, ffensio a rhwystrau.


Bydd y ganolfan hamdden yn parhau fel yr arfer am y tro, er y bydd rhywfaint o effaith ar y pwll nofio, y gampfa a'r neuadd chwaraeon wrth i'r prosiect fynd yn ei flaen.


Mae gwaith yn cael ei wneud ar hyn o bryd i sicrhau nad yw'r gwasanaeth i gwsmeriaid yn lleihau o ganlyniad i hyn.

 

Dywedodd y Cynghorydd Gwyn John, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Hamdden, Chwaraeon a Lles: "Mae'r Cyngor wedi ymrwymo swm sylweddol o arian ar gyfer gwneud gwaith gwella helaeth yng Nghanolfan Hamdden Penarth. 


"Bydd y to a'r cladin allanol yn cael eu adnewyddu’n llwyr i gynnig cyfleuster modern, pwrpasol i'w fwynhau gan ddefnyddwyr.


"Mae iechyd a lles yn parhau i fod yn brif flaenoriaeth ac rydym yn gobeithio, unwaith y bydd y prosiect wedi'i gwblhau, y bydd gan ddefnyddwyr canolfannau hamdden ofod well nag erioed i fod yn actif. 


"Ymdrechwn cymaint â phosibl i osgoi tarfu, a bydd manylion am sut y bydd cyfleusterau yn cael eu heffeithio yn dilyn maes o law."

Dywedodd Nic Beggs, Rheolwr Contract Legacy Leisure:  "Rydym yn falch o weld y buddsoddiad parhaus gan Gyngor Bro Morgannwg yn ei ganolfannau hamdden.   


"Er na fydd y prosiect yn cael effaith uniongyrchol ar y gwasanaeth a gynigiwn ym Mhenarth, bydd y gwaith fesul cam yn cael effaith ac rydym bellach yn gweithio'n agos gyda'n cydweithwyr yn y Cyngor i barhau i gynnig gwasanaeth hamdden cadarn tra bod y gwelliannau hyn yn cael eu gwneud."