Cost of Living Support Icon

 

Trawsnewid cyrtiau tennis parc lleol

Mae gwaith sylweddol wedi’i gwblhau i wella tair set o gyrtiau tennis mewn prosiect ar y cyd rhwng Cyngor Bro Morgannwg a’r Gymdeithas Tennis Lawnt (LTA) gyda chefnogaeth Tennis Cymru.

 

  • Dydd Iau, 28 Mis Medi 2023

    Bro Morgannwg



Mae’r cyfleusterau ym Maes Athletau Penarth, parc Gwenfô a pharc Millwood i gyd wedi'u huwchraddio'n gynhwysfawr, gan gynnig cyfleusterau tennis o ansawdd uchel i ddefnyddwyr.


Daw fel rhan o fuddsoddiad gwerth £121,000 a gafodd ei sicrhau gan y Cyngor ac sy’n cael ei gyflawni gan y LTA drwy Brosiect Tennis Parciau a ariennir gan Lywodraeth y DU a Sefydliad Tennis y LTA, yn dilyn buddsoddiad gwerth £130,000 gan y Cyngor a Chwaraeon Cymru i drawsnewid y cyrtiau tennis ym Mharc Romilly y llynedd.

 

tennis1

Mae'r chwe chwrt sydd wedi’u hadnewyddu ar draws y tri pharc wedi cael eu hail-baentio'n llwyr ac wedi cael arwynebau, rhwydi a physt newydd. 
Maen nhw'n cynnwys system fynediad drwy giât sy'n ei gwneud hi'n haws i drigolion ddod o hyd i gwrt a’i archebu - sy'n golygu nad oes angen aros na bod yn ansicr ynghylch argaeledd cyrtiau. 
Yn ddiweddar, ymwelodd Lis Burnett, Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Gwyn John, yr Aelod Cabinet dros Hamdden, Chwaraeon a Lles, a Phrif Weithredwr Tennis Cymru, Simon Johnson, â Phenarth i weld y canlyniadau. 

Dywedodd y Cynghorydd John: "Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddarparu'r cyfleusterau gorau posibl i'w breswylwyr fwynhau ffordd actif ac iach o fyw.  


"Mae Tennis Cymru a Chwaraeon Cymru, sydd wedi chwarae rhan bwysig yn y cynllun i adnewyddu'r cyrtiau yn y lleoliadau hyn yn rhannu'r amcan hwn.


"Y gobaith yw y bydd y gwaith yn helpu i gynyddu nifer y bobl sy'n chwarae tennis yn rheolaidd, tra'n cynnig amgylchedd diogel a modern iddyn nhw fwynhau'r gamp." 

Mae'r system fynediad drwy giât yn helpu i reoli slotiau ac mae’n creu lle diogel i bobl chwarae tra'n atal fandaliaeth i’r cyrtiau.

 

Bydd y cyrtiau’n costio £4.50 yr awr i ddefnyddwyr achlysurol, tra gall aelwydydd a myfyrwyr gofrestru ar gyfer pasys blynyddol i'r cyrtiau am £39 a £19, yn y drefn honno, gan sicrhau ffioedd blynyddol untro isel am 12 mis o chwarae. Bydd y cyrtiau’n cael eu cynnal ar sail ddi-elw, gyda’r arian yn cael ei ail-fuddsoddi mewn gwaith cynnal a chadw. Bydd unrhyw arian dros ben yn mynd at ariannu gweithgarwch tennis yn y Fro ehangach.


Ochr yn ochr â'r buddsoddiad, bydd Cyngor Bro Morgannwg a Tennis Cymru hefyd yn gweithio gyda'r LTA i ddarparu ystod o weithgareddau ar draws safleoedd y parc. Bydd hyn yn cynnwys sesiynau tennis wythnosol yn y parc am ddim ar gyfer chwaraewyr o bob oedran, lefel chwarae a phrofiad. Darperir offer, sy'n golygu na fydd angen i bobl ddod â rhywun i chwarae gydag e na'u raced eu hunain. Bydd cynghreiriau tennis lleol hefyd yn darparu cyfleoedd cyfeillgar a chymdeithasol i fod yn egnïol trwy gystadleuaeth.  

 

tennis2

Bydd rhaglen hyfforddi helaeth hefyd yn gweithredu ym Mharc Romilly diolch i Academi Tennis y Fro a bydd y parciau eraill yn hysbysebu ar gyfer swyddog hyfforddi yn y dyfodol agos.

Dywedodd Julie Porter, Prif Swyddog Gweithredu y LTA: "Ar ôl misoedd o waith caled, rydym yn falch iawn o weld cyrtiau tennis mewn parciau ledled Bro Morgannwg yn ôl ar agor yn swyddogol i'r cyhoedd, ac mewn gwell siâp nag erioed.  "Mae cyrtiau tennis cyhoeddus yn gyfleusterau mor hanfodol ar gyfer bod yn egnïol ac rydym am i gynifer o bobl â phosibl, o bob oed a gallu, godi raced a mwynhau chwarae tennis. Diolch i'r buddsoddiad hwn bydd y gamp yn cael ei hagor i fwy o chwaraewyr, am flynyddoedd i ddod."  

Mae'r prosiect yn rhan o fuddsoddiad cenedlaethol gwerth £30miliwn gan Lywodraeth y DU a Sefydliad Tennis LTA, a ddarperir gan yr LTA, i adnewyddu cyrtiau tennis cyhoeddus ledled Prydain Fawr ac i agor y gamp i lawer mwy o bobl. Bydd y buddsoddiad hwn yn gweld miloedd o gyrtiau tennis presennol sydd mewn cyflwr gwael neu na ellir chwarae arnynt yn dychwelyd i ddefnydd. Mae'r holl gyrtiau a sesiynau yn y parciau hyn ar gael i'w harchebu ar-lein drwy wefan y LTA.