Cost of Living Support Icon

 

Dadorchuddio Tyrau Windrush yn y Swyddfeydd Dinesig

Ddoe, gwahoddwyd aelodau o gymuned Hynafiaid Windrush i'r Swyddfeydd Dinesig ar gyfer dadorchuddio Tyrau Windrush 75, sy'n talu teyrnged i'r 16,000 o ddynion a menywod Du Caribïaidd a wasanaethodd yn yr Ail Ryfel Byd.

 

  • Dydd Gwener, 27 Mis Hydref 2023

    Bro Morgannwg



Windrush Elders VOG Cabinet Mayor of the Vale and Royal British Legion at the Windrush Ceremony

Mae'r Tyrau, a grëwyd drwy bartneriaeth Amgueddfa Genedlaethol Windrush a'r Lleng Brydeinig Frenhinol, yn stondinau gwybodaeth a fydd yn teithio o amgylch y Fro am y 12 wythnos nesaf i aelodau'r cyhoedd weld a dysgu mwy am rai o'r dynion a menywod o'r Caribî a wasanaethodd yn y lluoedd arfog yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

 

Bydd y Tyrau yn y Swyddfeydd Dinesig am y tair wythnos nesaf cyn eu symud i Bier Penarth.

 

Dywedodd y Cynghorydd Bronwen Brooks, Dirprwy Arweinydd y Cyngor a’r Aelod Cabinet dros Leoedd Cynaliadwy:   “Cawsom ein hanrhydeddu pan ofynnodd y Lleng Brydeinig Frenhinol i'r Cyngor gynnal y Tyrau Windrush yma yn y Swyddfeydd Dinesig a lleoliadau ledled y Fro am 12 wythnos.

 

“Ar ran y Cyngor, mae'n fraint gen i groesawu Hynafiaid Windrush i Fro Morgannwg a chydnabod a diolch i'r rhai a atebodd alwad Prydain. Mae'r tyrau hyn yn dyst i'w dewrder a'u hymrwymiad yr ydym yn dragwyddol ddiolchgar amdanynt. Diolch.”

Professor Uso Iwobi giving her speech with VOG Cabinet Members

 

Dywedodd yr Athro Uso Iwobi CBE, Prif Weithredwr Race Council Cymru: “Mae'n hyfryd i ni i gyd a'r Hynafiaid fod yma heddiw. Rydym ni yn y cymunedau Affricanaidd ac Affricanaidd-Caribïaidd yn credu bod yr Hynafiaid yn rhoi'r golau i chi ei ddal, maen nhw'n rhoi'r baton i chi ei gario a rhedeg - ni fyddem yma heddiw oni bai am yr Hynafiaid sef yr ysgwyddau rydym yn sefyll arnynt.

 

“Daeth stori Windrush i fy sylw ychydig flynyddoedd yn ôl pan oeddwn newydd gael fy mhenodi i'r Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol. Mynychais ddigwyddiad yn Stryd Bute, Caerdydd fel Is-gadeirydd Cymdeithas Hanes Pobl Ddu Cymru.

 

“Yn y cyfarfod hwnnw cwrddais â Mrs Elizabeth (Betty) Campbell. Wrth iddi ddod i fy adnabod dros y blynyddoedd, dechreuodd drosglwyddo ei hangen i rannu straeon o'n cymunedau â mi.

 

“Dywedodd wrthyf, ‘mae llawer ohonom yn cario etifeddiaeth y rhai a ddaeth o'n blaenau.’

 

“Pan fyddwch chi’n meddwl am y bobl sydd wedi gwasanaethu'r wlad hon i sicrhau ein rhyddid, roedd cymaint o genhedlaeth Windrush, pobl na chawsant eu geni yn y wlad hon ond a aberthodd eu bywydau ar ei chyfer. Dyna pam rydym wedi gweithio gyda Swyddfa'r Arglwydd Raglaw i anrhydeddu etifeddiaeth ein Henuriaid.”

Un o Hynafiaid Windrush a oedd yn bresennol oedd Mrs Roma Taylor, cyn-nyrs i Gorfflu Nyrsio Brenhinol y Fyddin y Frenhines Alexandra a sylfaenydd Hynafiaid Windrush Cymru.

Ychwanegodd yr Athro Iwobi: “Roedd Anti Roma Taylor yn nyrs am dros bum mlynedd ar hugain ac mae'n un o'r bobl rydyn ni yma i'w hanrhydeddu. Mae ei stori yn un o bedwar deg wyth a gasglwyd gan y Lleng Brydeinig Frenhinol. Mae mor bwysig nad yw'r straeon hyn byth yn cael eu hanghofio.”

Yvonne Bunt Howard Reading her poem

Gallwch ddarllen mwy am stori Roma Taylor ar y Tyrau Windrush yn y Swyddfeydd Dinesig.

 

I gloi'r digwyddiad, darllenodd Yvonne Howard-Bunt gerdd a ysgrifennodd ar gyfer Dathliad Windrush 75 y Senedd a’i pherfformio ynddo ym mis Mehefin yn gynharach eleni.

 

Mae’r gerdd, dan y teitl 'The Council of the Elders', yn talu teyrnged i aberth y genhedlaeth Windrush, yn cydnabod yr heriau a'r gwahaniaethu a wynebwyd ganddynt pan gyrhaeddon nhw y DU, a'r etifeddiaeth y maent wedi'i gadael ar eu hôl.

 

The Council of The Elders

Yvonne Howard Bunt

 

The Elders all do gather

In the here and now and then

The council of the Elders

Liberty, parchment, pen.

 

It was in the aftermath

Of World War Two,

A war-torn Britain,

Harsh, cold and blue.

 

Opened its doors

To the Windrush group

War veteran, Commonwealth Citizens

Among the troop.

 

Answering the call

From the promised land

Your homeland country needs you

Are you willing to take a stand.

 

Come, come, your mother country needs you

You’ll find a welcome here

Your education system is akin to ours

You’ll fit in well, no fear.

 

Help us to build this nation

From the decimation of war

Come, honour your beloved country

We need, we implore.

 

Departing on the Windrush

For King and country same

To a distant land known as home

They sailed to unknown gain.

 

The Windrush found no welcome

In the homeland they believed they knew

Faced discrimination and rejection

The promise proved untrue.

 

They lived in poor cluster neighbourhoods

In Cardiff and Tiger Bay

Among Somali and Yemini People

And other settlers who paved the way.

 

And as is oft repeated

Throughout time down the track

The Windrush Group are pioneers

Who put us on the map.

 

That they may teach others

From the wealth of experience, they have gained

In building blocks for others

Through their struggles, they’ve attained.

 

So dearest Windrush Elders

Sing your stories clear and loud

That your voices rise to uplift us all

Above the noisy crowd.

 

Add to the bank of knowledge,

Pray your truth. Do tell

On this 75th anniversary

Let’s fill and swell the well.

 

Time is littered with oral histories

Backstories from worlds afar.

They are part of our national landscape

The chronicle of who and where we are.

 

Let’s refine and build the new narrative

In this timeless arterial wall

For the pioneers who came before us

And the loved ones who stood tall.

 

Let’s build a bridge for everyone

And positively embrace

A shared sense of vision,

for the human race.

 

The footprint of our neighbour

Is entwined within our life

And so many who’ve passed before us

In struggle and in strife.

 

We are all kindred spirits

In the quest for life’s chance

Let’s share a common future

Let’s partake and dare to dance.