Cost of Living Support Icon

 

Cymerwch ran yn yr Arolwg Ymgysylltu Gadewch i Ni Siarad Stroc er mwyn helpu i wella gwasanaethau

Mae Cyngor Bro Morgannwg yn galw ar bawb sydd wedi dioddef stroc i rannu eu sylwadau drwy gwblhau arolwg ymgysylltu.

  • Dydd Iau, 12 Mis Hydref 2023

    Bro Morgannwg


 

 

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol (BIP) Caerdydd a'r Fro a BIP Cwm Taf Morgannwg yn gweithio gyda'i gilydd a chyda phartneriaid eraill, gan gynnwys y Gymdeithas Strôc, i gymryd camau pwysig i wella gwasanaethau gofal strôc i unrhyw un y mae strôc yn effeithio arno ar draws canol de Cymru.

 

Cynhelir adolygiad o bob rhan o'r llwybr strôc ar gyfer cleifion yng Nghwm Taf Morgannwg a Chaerdydd a'r Fro yn rhan o raglen ranbarthol newydd o'r enw Rhwydwaith Cyflawni ar gyfer Strôc Canol De Cymru.

 

Stoke Graphic Bilingual

Rydym am sicrhau bod pobl sy'n cael strôc yn cael canlyniadau gwell ac yn gallu byw bywyd mor llawn â phosib yn dilyn strôc.

 

Er mwyn i hyn ddigwydd, mae angen cyrraedd y gwasanaeth strôc cywir yn gyflym ac yn y lle cywir, a chael mynediad at gymorth adsefydlu a gwella effeithiol - a elwir yn llwybr strôc.

 

Mae eich profiadau a'ch syniadau yn bwysig iawn. Gallant helpu gwasanaethau iechyd i wella gofal i unrhyw un sydd wedi cael strôc.

 

Y dyddiad cau ar gyfer ymateb i’r arolwg yw dydd Llun 27 Tachwedd 2023.

 

Os ydych chi neu rywun rydych chi’n gofalu amdano wedi cael strôc, a fyddech cystal â rhannu eich stori drwy lenwi'r ffurflen fer hon.

 

Gadewch i ni Siarad Strôc - Arolwg Ymgysylltu (office.com)