Gweithle ym Mhenarth yn elwa o fwrsariaeth y Cyngor
Mae cynllun Bwrsariaeth Dechrau Busnes Cyngor Bro Morgannwg wedi helpu gweithle bywiog ym Mhenarth i barhau i dyfu.

Mae Milkshed ar Machen Street yn y dref yn ganolfan fodern weithredol ar gyfer amrywiaeth o weithwyr proffesiynol ac mae wedi creu cymuned liwgar newydd ar yr un pryd.
Gellir archebu desgiau poeth i'w defnyddio bob dydd, mae desgiau sefydlog ar gael ar gyfer tymor hwy, tra bod mannau stiwdio mwy yn cynnig lle ychwanegol i'r rhai sydd ei angen.
Mae amrywiaeth eang o bobl, sy'n aml yn ymwneud â'r diwydiannau creadigol, eisoes yn defnyddio'r cyfleuster, sydd wedi gallu ehangu yn ddiweddar diolch i gymorth ariannol gan y Cyngor.
Y dylunydd graffeg John Davies a Will Summers, cerddor, sydd y tu ôl i'r fenter ac hefyd yn gweithio o Milkshed eu hunain weithiau.
Cafodd John ei fagu yn Aberaeron, gan symud i Gaerdydd i fynd i’r brifysgol, cyn ymgartrefu ym Mhenarth.
Astudiodd Will, sy'n wreiddiol o Fargoed, yn Ysgol Gerddoriaeth Caerdydd ac mae bellach yn diwtor cerddoriaeth llawrydd yn dysgu’r ffliwt, clarinet, sacsoffon, piano a theori cerddoriaeth, gan helpu yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru hefyd.
"Rydym wedi byw ym Mhenarth ers tua 10 mlynedd, felly rydyn ni'n hoffi meddwl ein bod yn gwybod sut mae tref fel hon yn gweithio," meddai John.
"Mae busnesau bach, annibynnol sy'n creu incwm, yn gwario'r incwm yna yn lleol, gan ddatblygu’r dref a'r gymuned.
"Dyna’r hyn oedd gennym mewn golwg pan wnaethon ni dynnu hwn at ei gilydd - dyna pwy rydyn ni wedi ein hanelu ato.
"Mae'n un o'r cynhwysion i'w wneud yn ganol tref llwyddiannus. Mae canol trefi yn bethau amlochrog a gwahanol i wahanol bobl. Nid bwyd a diod yn unig mohono, nid dim ond anrhegion o safon uchel, mae'n bopeth. Rhan o hynny yw galluogi pobl i weithio yn y cymunedau hynny hefyd.
"Y syniad yw cynnig cydweithio yn eich cymuned, yn hytrach na gorfod teithio i ganol Caerdydd neu i barc busnes ar gyrion y ddinas, mae hyn o fewn Penarth ei hun.
"Trwy hynny, rydych hefyd yn gallu defnyddio'r siop leol, galw heibio am ychydig o ginio yn y deli lleol, cael gwydraid o win ar ôl gwaith. Mae i gyd yn ymwneud â'r economi gylchol honno o gadw arian yn yr ardal leol iawn, yn hytrach na gadael iddo ddianc, hyd yn oed i Gaerdydd."

Derbyniodd Milkshed uchafswm y bwrsariaeth oedd ar gael o £5,000, sydd wedi ei alluogi i ehangu y tu hwnt i gynnig gofod swyddfa annibynnol, i ddarparu cyfleoedd cydweithio hefyd.
Llwyddodd John a Will i brynu dodrefn o safon i wneud y gofod yn fwy apelgar i'r rhai sy'n ei ddefnyddio.
"Rhoddodd y bwrsariaeth lwyfan proffesiynol gwych i ni dyfu ohono," meddai John.
"Yn hytrach na dodrefn o ansawdd isel neu ail-law, roedd yn caniatáu i ni brynu desgiau eistedd/sefyll neis iawn, sy'n wych ar gyfer iechyd.
"Mae gennym seddi da a phethau fel diffoddwyr tân a rhai arwyddion. Y mathau hynny o bethau ychwanegol nad oeddem o reidrwydd yn meddwl amdanynt, ond sy'n bwysig i gwmni ar gyfer y cyhoedd.
"Fe wnaeth helpu gyda marchnata a hysbysebu hefyd. Heb y bwrsariaeth, byddai wedi bod yn anodd iawn i ni wneud hynny."
Mae Milkshed yn agored i unrhyw unigolyn neu fusnesau sydd am ddefnyddio'r gofod ac mae wedi denu grŵp amrywiol o denantiaid, gyda chydweithrediadau eisoes yn dechrau datblygu.
"Gall unrhyw un ei ddefnyddio, ond yn ôl ei natur, mae'n denu math penodol o gwsmer. Hynny yw, pobl sy'n gweithio ar eu pennau eu hunain a phobl sydd yn gweithio ar gyfrifiadur yn bennaf," meddai John.
"Dwi'n ddylunydd graffeg yn ôl fy ngalwedigaeth, mae Will yn gerddor, mae ganddo fe le yma. Mewn rhai o'n mannau eraill, mae gennym weithiwr harddwch laser ac iechyd. Cwmni arlwyo yw ein tenant diweddaraf - mae ganddynt gaffi deli ym Mhenarth, ond roedd angen ail gegin arnynt i weithio ynddi.
"Mae gennym recriwtiwr technoleg yma, ymgynghorydd busnes, peirianwyr meddalwedd ac mae gennym gyfres o bobl sy’n defnyddio ein desgiau poeth. Pobl sy'n dod mewn a mas yn ddyddiol.
"Mae’n syndod lled, natur a'r mathau o waith sy'n digwydd ym Mhenarth. Mae'n wych, mae'n gymuned fusnes arbennig iawn ac yn wych i fod yn rhan ohoni.
"Rydych yn cael y rhyngweithio hwnnw rhwng busnesau. "Mae hyn yn llai perthnasol erbyn hyn, ond pan oeddem yn llwyddiannus yn cael y grant bwrsariaeth, rhan fawr o'n hethos oedd lleihau unigrwydd i weithwyr gartref."
Yn ystod y pandemig, dioddefodd llawer o weithwyr ddiffyg cyswllt â chydweithwyr gan fod swyddfeydd ar gau a bod gweithio gartref yn orfodol.
Gall hynny fod yn anfantais o fod yn hunangyflogedig, yn gweithredu ar eich pen eich hun heb y cwmni sy'n dod law yn llaw â lleoliad gwaith prysur.
Mae Milkshed yn lleihau hynny am fod pobl sy'n ymwneud ag ardaloedd gwahanol yn eistedd ochr yn ochr mewn amgylchedd a rennir.
"Mae'n chwalu rhwystrau, yn creu cysylltiad a'r cyfle i gydweithio ar brosiect neu gyfeirio at ffrind neu gydweithiwr a allai fod o gymorth," meddai John, sydd hefyd yn Gadeirydd Grŵp Busnes Penarth.
"Rydym yn rhan o gymuned fusnes ehangach. Rydym wedi ein lleoli oddi ar Cornerswell Road, sef stryd fawr eilaidd yn y dref. Mae yna lawer o siopau hyfryd, caffis a busnesau eraill. Mae'n sylfaen i ryngweithio ag economi'r dref ehangach hefyd.
"Mae Penarth yn dref eithaf bach felly bydd pobl yn adnabod ei gilydd. Mae'n cynnig y llwyfan gwych hwnnw i adeiladu cymuned.
"Yn enwedig os ydych yn gweithio i chi'ch hun, mae bod yn rhan o gymuned fel yna yn bwerus iawn."
Mae gan Milkshed ddesgiau sefydlog a desgiau poeth ar gael a rhestr aros i'r rhai sydd angen gofod swyddfa.
Mae mwy o wybodaeth a manylion cyswllt ar gael ar wefan y cwmni.