Cost of Living Support Icon

 

Offer Ffitrwydd Awyr Agored newydd yn nhir hamdden Gwenfô

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi gosod offer ffitrwydd awyr agored yn ddiweddar ar gyfer y gymuned yn nhir hamdden Gwenfô

 

  • Dydd Iau, 26 Mis Hydref 2023

    Bro Morgannwg



Mae'r cyfleusterau wedi cael eu hariannu gan gyfraniadau Adran 106 yn sgil datblygiadau cyfagos i’w buddsoddi mewn cyfleusterau cymunedol am gost o £60,000.

 

Gofynnwyd am farn y gymuned ar ba offer yr hoffen nhw eu gweld ar y safle hwn, oddi ar Heol yr Orsaf Ddwyreiniol, yn dilyn gwelliannau eraill i ardaloedd chwarae cyfagos. 

 

Mae'r offer ffitrwydd ar gyfer plant 14+ oed neu sy’n 1.4m neu fwy o daldra, ac mae'n cynnwys elfennau cynhwysol yn ogystal ag offer i wella ffitrwydd cardio a chryfder.

Fitness Equipment WenvoeDaeth yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdogaeth y Cynghorydd Mark Wilson i brofi’r offer yn ddiweddar a dwedodd: "Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn i'r gymuned yng Ngwenfô allu cael mynediad at offer ffitrwydd awyr agored am ddim. Mae wedi'i gynllunio i fod yn gynhwysol a gellir ei gyrraedd o rwydweithiau teithio llesol cyfagos, sy'n golygu bod ffyrdd mwy cynaliadwy a chost-effeithiol o ymarfer corff yn yr ardal leol erbyn hyn."  

 

Ychwanegodd y Cynghorydd Gwyn John, Aelod Cabinet dros Hamdden: "Mae'n wych gweld yr offer ffitrwydd newydd sydd ar gael yma yn ogystal â'r cyrtiau tennis sydd newydd eu hadnewyddu a'r cae hamdden a ddefnyddir ar gyfer Pêl-droed a Chriced. Rwy'n gobeithio y bydd yr offer yn cael ei ddefnyddio'n aml gan bawb sy'n dod yma."