Cost of Living Support Icon

 

Agor parc sglefrio newydd yn swyddogol

Cafodd Parc Sglefrio Coffa newydd Richard Taylor ei agor yn swyddogol fore Sadwrn gan Gyngor Bro Morgannwg a chefnogwyr Cronfa Goffa Richard Taylor.

  • Dydd Mawrth, 10 Mis Hydref 2023

    Bro Morgannwg


 

 

Knap Stakepark Ribbon Cut Saturday 7 Oct_

Codwyd dros £300,000 i’w fuddsoddi yn y parc sglefrio dull rhydd concrit newydd gyda chyllid gan Gyngor Bro Morgannwg, Chwaraeon Cymru, Cronfa Goffa Richard Taylor, Sefydliad Waterloo, Ymddiriedolaeth Ieuenctid Heddlu De Cymru, a Chronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.

 

Dros y pum mis diwethaf mae Bendcrete Ltd wedi bod yn gweithio'n galed i adeiladu'r cyfleuster newydd, gan ddefnyddio dull chwistrellu concrid, sy'n addas ar gyfer siapiau a chyfuchliniau unigryw rampiau parc sglefrio.

 

Roedd defnyddwyr yn falch iawn o weld y parc sglefrio newydd yn agor ar ôl ymgyrch tair blynedd i godi'r arian, cytuno ar y dyluniad, a phenodi'r contractwr i adeiladu'r parc sglefrio. 

 

Roedd sglefrwyr o gymysgedd o oedrannau, disgyblaethau a galluoedd yn barod i ddefnyddio'r cyfleuster newydd pan gafodd ei agor yn swyddogol y penwythnos hwn.

 

Soniodd Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg, y Cynghorydd Lis Burnett, am “ba mor wych oedd gweld pawb yn mwynhau'r cyfleuster newydd sbon cyn gynted ag y gwnaethom ei agor."

 

"Fydden ni ddim wedi cyrraedd y pwynt hwn heb ddod at ein gilydd i ddod o hyd i'r cyllid i wireddu dymuniadau'r gymuned leol."

 

Cytunwyd ar y dyluniad terfynol yn dilyn ymgynghoriad helaeth â'r gymuned leol, a weithiodd yn agos gyda Bendcrete i gytuno ar yr elfennau y dylid eu cynnwys yn y parc.

 

Ychwanegodd y Cynghorydd Burnett: "Rwy'n arbennig o falch o weld merched ifanc ar eu sglefrfyrddau a'u sgwteri yn wynebu’r rampiau mwyaf."

 

Knap Skaters_

Fe wnaeth Gaynor Taylor, mam y diweddar Richard Taylor, dorri'r rhuban ddydd Sadwrn i gymeradwyaeth a dathlu. Gwnaeth Gaynor ddiolch yn unigol i bawb a gefnogodd Ymddiriedolaeth Goffa Richard Taylor i godi'r arian i ddisodli’r hen rampiau sglefrio a osodwyd yn 2007 mewn teyrnged i Richard Taylor.

 

Ychwanegodd Gaynor: "roedd yn wych i weld pob oedran a phob disgyblaeth yn defnyddio a mwynhau'r parc sglefrio yn syth.

 

"Rydw i mor hapus bod etifeddiaeth Richard yn parhau."