Cost of Living Support Icon

 

Y Cyngor yn agor cyfleusterau cawod newydd ar draeth Penarth

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi agor dwy gawod awyr agored ar draeth Penarth.

 

  • Dydd Mercher, 25 Mis Hydref 2023

    Bro Morgannwg



Cllr Mark Wilson - opening of penarth beach showersMae'r traeth yn un o wyth dŵr ymdrochi swyddogol yn y Fro ac yn gyrchfan boblogaidd i grwpiau nofio lleol.


Fel rhan o raglen ehangach o waith i wella'r gyrchfan arfordirol, gwariwyd £10,000 o Gyllideb Gyfalaf Seilwaith Arfordirol Blynyddol y Cyngor ar adeiladu'r cyfleusterau cawod newydd.


Bydd y cawodydd wedi'u lleoli gyferbyn â Gorsaf Bad Achub RNLI Penarth a byddant ar agor i'w defnyddio drwy’r dydd a’r nos.

Dywedodd y Cynghorydd Mark Wilson, Yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdogaeth ac Adeiladau: “Mae traethau'r Fro yn chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi lles a chydlyniant yn ein cymunedau.


“Roeddem yn falch iawn o weld traeth Penarth yn cael ei enwi'n ddŵr ymdrochi dynodedig yn 2022 ac ers hynny rydym wedi gweld cynnydd yn ei boblogrwydd ymhlith nofwyr.


“Rwy'n gobeithio y bydd y cyfleusterau newydd yn gwella profiad nofwyr môr a defnyddwyr y traeth am flynyddoedd i ddod.”