Cost of Living Support Icon

 

Y Cyngor yn lansio arolwg twristiaeth

Mae Cyngor Bro Morgannwg eisiau clywed gan drigolion lleol ar bwnc twristiaeth.

 

  • Dydd Gwener, 20 Mis Hydref 2023

    Bro Morgannwg



Gyda thymor yr haf bellach ar ben, mae adran twristiaeth yr Awdurdod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ddeall sut mae'r Fro yn ystyried i diwydiant hwn.


Y nod yw casglu barn y rhai sy'n byw yn yr ardal, gyda phrosiectau tebyg yn rhedeg yng Ngwynedd a Sir Benfro, gyda chefnogaeth Croeso Cymru.

 

Mae'n bwysig cyfleu manteision ac anfanteision twristiaeth fel y gellir ei reoli'n gynaliadwy.


Gwahoddir pawb sydd â diddordeb i gwblhau arolwg, gyda'r canfyddiadau’n cael eu defnyddio i lywio polisi yn y dyfodol i ddiwallu anghenion y cymunedau dan sylw yn y ffordd orau.

 

Barry Island Beach Huts with deckchair

Er mai'r pwrpas yw sicrhau bod pob llais yn cael ei glywed, gellir rhoi pob ymateb yn ddienw fel nad oes risg o adnabod unrhyw un, a gall y cyfranogwyr dynnu'n ôl o'r broses ar unrhyw adeg.

Dwedodd y Cynghorydd Bronwen Brooks, Aelod Cabinet Bro Morgannwg dros Fannau Cynaliadwy:  "Mae twristiaeth yn ddiwydiant pwysig yn y Fro. Mae'n darparu swyddi ac yn helpu i gefnogi amrywiaeth eang o fusnesau. Ond gall hefyd roi pwysau ar ein rhwydwaith trafnidiaeth a seilwaith arall. 


"Er mwyn deall effaith twristiaeth ar y Fro yn iawn, rydym yn gofyn i drigolion lleol gwblhau arolwg byr.
"Bydd hynny'n ein helpu i asesu effaith y sector yn well fel y gellir ei reoli'n gynaliadwy.


"Byddwn yn annog cynifer  o bobl â phosibl i gymryd rhan yn yr ymarfer hwn i ni gael gymaint o wybodaeth â phosibl o ran penderfyniadau yn ymwneud â thwristiaeth yn y dyfodol."