Twristiaeth y Fro yn sicrhau cyllid o’r Gronfa Ffyniant Gyffredin ar gyfer Digwyddiadau'r Nadolig
Mae Tîm Twristiaeth a Digwyddiadau Cyngor Bro Morgannwg wedi derbyn cyllid o Gronfa Ffyniant Gyffredin (CFfG) Llywodraeth y DU i gefnogi pedair o drefi’r Fro ar gyfer eu dathliadau Nadolig.
Bob blwyddyn, mae'r Bont-faen, Penarth, Llanilltud Fawr, a'r Barri yn cynnal eu digwyddiadau Nadolig eu hunain y bydd trigolion ac ymwelwyr fel ei gilydd yn dod ynghyd i’w mwynhau. Y Nadolig hwn, mae trefi dan bwysau i wneud yn siŵr bod pobl yn meddwl yn lleol wrth ystyried paratoadau ar gyfer eu dathliadau.
Fodd bynnag, gyda'r cyllid ychwanegol a chefnogaeth tîm digwyddiadau'r cyngor, mae'r dathliadau eleni yn llawer mwy.
Dechreuodd dathliadau'r Nadolig ym Mhenarth ar 19 Tachwedd, gyda digwyddiad blynyddol cynnau'r goleuadau, ac yna diwrnod o ddathlu ar 14 Rhagfyr a drefnwyd gan fasnachwyr Penarth eu hunain. Gyda cherddoriaeth fyw, gweithdy Siôn Corn, Swyddfa Bost Pegwn y Gogledd lle gall rhai bach ysgrifennu at Siôn Corn a dau lwybr Nadolig lle mae modd ennill gwobrau, mae'n argoeli i fod yn ddiwrnod gwych.
Dychwelodd Gorymdaith Nadolig y Bont-faen unwaith eto ar 26 Tachwedd, gan ddechrau calendr o ddigwyddiadau yn y Bont-faen sy'n cael eu cynnal hyd at 22 Rhagfyr.
Y llynedd, denodd gorymdaith y llusernau yn Llanilltud Fawr dorfeydd enfawr, ac mae eleni yn argoeli i fod yr un peth gyda Siôn Corn a'i gorachod llawen yn arwain yr orymdaith gerddorol drwy'r dref. Cynhelir yr orymdaith ar 2 Rhagfyr, ac mae'n gorffen gyda sioe lusernau Nadoligaidd am 7pm, gyda Neuadd y Dref Llanilltud Fawr yn gefnlen iddi. Gan weithio gyda Phwyllgor Nadolig Llanilltud Fawr, mae'r Tîm Digwyddiadau yn falch iawn o gefnogi'r digwyddiad hwn unwaith eto eleni.
Gan weithio gyda Chyngor Tref y Barri a masnachwyr Heol Holltwn, bydd y Tîm Digwyddiadau a Thwristiaeth yn cefnogi gŵyl Nadolig y Barri. Mae hwn yn ddigwyddiad tridiau sy'n cyfuno cerddoriaeth, bwyd, diddanwyr stryd, stondinau crefftau, Groto Siôn Corn, ffair Nadolig, a ffilm Nadoligaidd yn y parc. Bydd goleuadau Nadolig y Barri yn cael eu cynnau gan Siôn Corn nos Iau, 30 Tachwedd gyda'r dathliadau'n parhau hyd at brynhawn dydd Sul.
Mae Stryd Fawr y Barri, Park Crescent a'r Goodsheds hefyd yn cynllunio eu dathliadau Nadolig gyda’u Nadolig yn y Parc a Marchnad Nadolig yn Tramshed.
Dwedodd y Cynghorydd Bronwen Brooks, Dirprwy Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg a’r Aelod Cabinet dros Leoedd Cynaliadwy: "Mae canol ein trefi yn wynebu heriau digynsail, felly rydym wrth ein bodd ein bod wedi sicrhau cyllid i'w cefnogi gyda rhaglen ddigwyddiadau sy'n dod â phobl ynghyd i arddangos y trefi mewn ffordd gadarnhaol.
"Mae gennym enw da am gynnal digwyddiadau gwych yn y Fro, felly mae gallu gweithio mewn partneriaeth â Chynghorau Tref a grwpiau busnes i wella'r digwyddiadau Nadoligaidd hyn yn enghraifft wych o weithio mewn partneriaeth er budd pawb.
"Rydym yn gobeithio y bydd pawb sy'n dod i’r digwyddiad hwn yn cael amser gwych."
Am ragor o fanylion am raglen ddigwyddiadau'r Nadolig, a digwyddiadau eraill ym Mro Morgannwg, ewch i:Digwyddiadau ym Mro Morgannwg | Ymweld â'r Fro