Cyngor Bro Morgannwg yn cofio’r rhai a gollodd eu bywydau yn y Rhyfel Byd Cyntaf
Ar ddydd Iau, 9 Tachwedd cynhaliwyd gwasanaeth i dalu teyrnged i'r rhai sydd wedi ymladd a cholli eu bywydau ar faes y gad, ac i gofio diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf.

Roedd Julie Aviet, Maer Cyngor Bro Morgannwg, y Cynghorydd Bronwen Brooks, y Dirprwy Arweinydd, cyn-filwyr ac urddasolion eraill yn bresennol ar gyfer gwasanaeth byr y tu allan i'r Swyddfeydd Dinesig i gefnogi Dydd y Cadoediad a chofio’r rhai a fu farw.
Roedd y seremoni’n gyfle i gofio am wasanaeth ac aberth pawb sydd wedi diogelu ein rhyddid ac amddiffyn ein ffordd o fyw.
Mae'r wythnos hon yn nodi 105 mlynedd ers y Cadoediad, sef cytundeb i ddod â’r ymladd yn y Rhyfel Byd Cyntaf i ben ac i nodi dechrau’r trafodaethau heddwch.
Yn ogystal â'r gwasanaeth, datgelwyd mainc goffa newydd yng Ngerddi Gladstone, gyferbyn â'r neuadd goffa.
Meddai’r Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdogaeth ac Adeiladau, y Cynghorydd Mark Wilson, a oedd yn bresennol i weld y dadorchuddiad, "Mae hon yn deyrnged arbennig iawn i'r rhai a ymladdodd ac a fu farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf a rhyfeloedd dilynol"
"Mae'r patrymau cymhleth a'r dyluniad hardd yn feddylgar ac ystyriol ac yn ein hatgoffa o'r dynion a'r menywod dewr a wnaeth yr aberth eithaf dros ein gwlad"
"Gobeithiwn y bydd pawb sy'n ei defnyddio yn ei gwerthfawrogi ac y bydd yn lle cyfleus i orffwys a myfyrio i bobl sy'n pasio.”
Mae'r fainc yn cynnwys dyluniad coffa arbennig o golomennod gwyn, i ddynodi heddwch, a phabïau a osodwyd yn barod ar gyfer Dydd y Cofio.

Codwyd y Lluman Coch a Baner y Lleng Brydeinig Frenhinol y tu allan i'r Swyddfeydd Dinesig a byddant yn parhau i hedfan am weddill yr wythnos hon, gan ddangos ein cefnogaeth i Ddydd y Cadoediad a Sul y Cofio.
Ddydd Sul, bydd Cyngor Tref y Barri yn cynnal gwasanaeth am 10.45am yn y Senotaff y tu allan i Neuadd Gelfyddydau’r Memo, y Barri.