Cost of Living Support Icon

 

Cyngor y Fro yn sicrhau £19.8m ar gyfer cynlluniau marina Glannau’r Barri

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi sicrhau £19.8m o gyllid ar gyfer ei brosiect Y Barri - Creu Tonnau. 

 

  • Dydd Mawrth, 21 Mis Tachwedd 2023

    Bro Morgannwg



Bydd y cynlluniau, a arweinir ac a ddatblygwyd yn fanwl gan y Cyngor a'u llunioio gan drigolion lleol a nifer o bartneriaid lleol a rhanbarthol, yn darparu canolfan chwaraeon dŵr yn Nglannau'r Barri a marina, ynghyd â pharc newydd. Bydd hefyd yn gweld creu gofod busnes newydd ar gyfer y dref. Bydd buddsoddiad pellach hefyd i rwydwaith teithio llesol y dref ar lan y dŵr. Datblygwyd y cynigion mewn partneriaeth â sefydliadau cymunedol lleol a Chymdeithas Porthladdoedd Prydain a fydd hefyd yn darparu arian cyfatebol.

 

Daw'r arian newydd o Gronfa Codi'r Gwastad Llywodraeth y DU sy'n buddsoddi mewn seilwaith sy'n gwella bywyd bob dydd, gan gynnwys adfywio canol trefi a strydoedd mawr, uwchraddio trafnidiaeth leol, a buddsoddi mewn asedau diwylliannol a threftadaeth.

Lis burnettDywedodd y Cynghorydd Lis Burnett, Arweinydd y Cyngor: "Rwy'n croesawu'r cyhoeddiad heddiw. Bydd y cyllid hwn yn ein galluogi i drawsnewid y Barri, ac yn arbennig y Glannau i'r lefel nesaf.

 

"Prosiect Y Barri - Creu Tonnau fydd y cam nesaf ar daith adfywio sydd wedi gweld buddsoddiad sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Bydd y cyllid Codi'r Gwastad yn cael ei ddefnyddio ochr yn ochr â'r grant Trawsnewid Trefi gwerth £20 miliwn a ddyfarnwyd yn ddiweddar i'r Cyngor i ganiatáu dull adfywio tref gyfan.

 

"Ar adeg pan fo cyllidebau'r Cyngor dan straen sylweddol, bydd y cyllid ychwanegol hwn yn darparu arian ar gyfer y tymor hwy i gyflawni gwelliannau na allem eu fforddio.

 

"Gyda'r ddau, rydym yn meddwl am y tymor hir. Swyddi ac addysg yw'r hyn a fydd yn sbarduno ffyniant yn y Fro yn ystod y degawd hwn. Bydd y ddau brosiect adfywio yn canolbwyntio ar greu swyddi cynaliadwy, mwy o gyfleoedd ar gyfer dysgu a hyfforddiant, gwell seilwaith cyhoeddus, a thrwy hynny gwell cysylltiad rhwng canol y dref a'r Glannau.

 

"Mae'r fenter Creu Tonnau yn un yr ydym wedi'i datblygu gyda chymunedau lleol. Mae cael cyfle nawr i weithredu cynlluniau y mae ein trigolion wedi helpu i'w creu yn hynod gyffrous.

 

"Byddwn yn dechrau gweithio ar gyflawni hyn yn ystod y misoedd nesaf ac rwy'n edrych ymlaen at weld y gwaith hwn yn dwyn ffrwyth dros y blynyddoedd nesaf".

Bydd y Cyngor yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i gwblhau'r manylion yn ystod yr wythnosau nesaf. Bydd y prosiect Creu Tonnau yn cael ei gyflawni dros y tair i bum mlynedd nesaf.