Cost of Living Support Icon

 

Sesiwn Galw Heibio wedi'i chynllunio i rannu cynnydd ar Metro De Cymru

Bydd sesiwn galw heibio gymunedol yn cael ei chynnal gan Trafnidiaeth Cymru ddydd Sadwrn, 18 Tachwedd i drafod cynlluniau ar gyfer gwasanaethau newydd Metro De Cymru.

  • Dydd Mawrth, 14 Mis Tachwedd 2023

    Bro Morgannwg

 

 

 

South wales metro poster

Bydd y Cynghorwyr William Hennessy a Gillian Bruce yn ymuno â nhw yng Nghanolfan Gymunedol y Rhws.

 

Bydd y cyfarfod yn rhoi cyfle i aelodau'r cyhoedd ofyn unrhyw gwestiynau yn ymwneud â'r prosiect a'r manteision y bydd yn eu cynnig i Fro Morgannwg.

 

Bydd cynrychiolwyr Trafnidiaeth Cymru yn rhannu'r cynnydd hyd yma ac yn ateb unrhyw gwestiynau neu bryderon.

 

Mae’r Metro yn rhwydwaith integredig o fysus, trenau a theithio llesol (cerdded a beicio) gyda’r bwriad o wella cysylltedd a gwneud teithio cynaliadwy yn haws ar draws De Cymru.

 

Mae'r sesiwn galw heibio wedi'i threfnu rhwng 10am a 12pm yng Nghanolfan Gymunedol y Rhws, Stewart Road, CF62 3EZ.

 

Am fwy o wybodaeth am y prosiect hwn, ewch i wefan Trafnidiaeth Cymru.