Gwasanaeth bws i redeg o Gyfnewidfa Trafnidiaeth y Barri
Bydd gwasanaeth bws yn dechrau rhedeg o Gyfnewidfa Drafnidiaeth y Barri yn gynnar y flwyddyn nesaf ar ôl i Gyngor Bro Morgannwg ddod i gytundeb gyda'r gweithredwr Adventure Travel.
O Ddydd Llun 8 Ionawr, bydd y B3 yn stopio ddwywaith yn y lleoliad, ger gorsaf drenau Dociau'r Barri, unwaith ar ei ffordd i Dregatwg o'r Barri ac unwaith ar ei ffordd yn ôl.
O ganlyniad, bydd y gwasanaeth, sy'n cael ei ariannu gan y Cyngor, yn rhedeg saith gwaith y dydd yn hytrach nag wyth.
Dwedodd y Cynghorydd Bronwen Brooks, Aelod Cabinet Bro Morgannwg dros Fannau Cynaliadwy: "Ar adeg anodd i weithredwyr bysiau, oherwydd bod llai o ddefnydd a lleihau’r cyllid gan Lywodraeth Cymru, rwy'n falch ein bod yn gallu darparu'r gwasanaeth hwn o Gyfnewidfa Trafnidiaeth Dociau’r Barri.
"Bydd y newidiadau a wnaed i'r amserlen hefyd yn cynyddu dibynadwyedd gwasanaethau, sy'n rhan o waith ehangach y Cyngor i wella'r agwedd hon ar y ddarpariaeth fysiau.
"Dylai hyn fod o fudd arbennig i drigolion Gibbonsdown, gorllewin a chanol y Barri a fydd â gwasanaeth bws uniongyrchol i'r gyfnewidfa a dyma'r datblygiad diweddaraf yn ymwneud â’r cyfleuster hwnnw, gyda gwaith yn parhau i ychwanegu ymhellach at y gwasanaethau sydd ar gael."
Mae Cyfnewidfa Drafnidiaeth y Barri yn fan cyfarfod ar gyfer gwahanol foddau o deithio, gan gysylltu’r gwasanaethau trên, bws, beicio a thacsis yn ogystal â chynnig cyfleusterau parcio a theithio gerllaw.
Yn ffinio ag adeilad Swyddfa’r Dociau Rhestredig Gradd II y Cyngor, mae'r prosiect yn cael ei gyflwyno mewn partneriaeth â Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd (P-RC) a Llywodraeth Cymru.