Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Iau, 25 Mis Mai 2023
Bro Morgannwg
Ym mis Ebrill 2023, cyflwynwyd ffioedd a thaliadau newydd ar draws llyfrgelloedd y Fro a fydd yn gweld dirwyon bach yn cael eu codi pan na ddychwelir eitemau ar amser.
O fis Mai 2023, mae taliadau sy'n ddyledus ar bob cyfrif wedi'u clirio, a bydd y system newydd yn berthnasol i eitemau na ddychwelir ar amser ar ôl 5 Mehefin. Gellir adnewyddu neu ddychwelyd eitemau llyfrgell ar wefan Bro Morgannwg, drwy’r ap PORI, yn bersonol neu dros y ffôn.
Mae gan holl aelodau llyfrgelloedd y Fro hawl hefyd i gael mynediad am ddim ac ar unwaith i ystod eang o eLyfrau, llyfrau sain, cylchgronau digidol a phapurau newydd, y gellir eu cyrchu i gyd trwy wefan Bro Morgannwg.
Dywedodd llefarydd ar ran Llyfrgelloedd y Fro:"Y llynedd, gwnaethom groesawu cyfanswm o 277,014 o bobl i lyfrgelloedd ledled y sir - mae'r ffigurau hyn yn cynrychioli pa mor hanfodol yw ein gwasanaethau i gymunedau lleol. "Bydd y taliadau newydd yn helpu i liniaru costau cynyddol ac yn annog pobl i ddychwelyd eitemau y gallai pobl eraill fod eisiau eu defnyddio. "Mae ein llyfrgelloedd ar agor i bobl o bob oed, yn cynnig lle cyfeillgar a chroesawgar ac yn cynnig cyfleusterau gwych ac amrywiaeth o wasanaethau am ddim sy'n cefnogi ein cymunedau."
Dywedodd llefarydd ar ran Llyfrgelloedd y Fro:"Y llynedd, gwnaethom groesawu cyfanswm o 277,014 o bobl i lyfrgelloedd ledled y sir - mae'r ffigurau hyn yn cynrychioli pa mor hanfodol yw ein gwasanaethau i gymunedau lleol.
"Bydd y taliadau newydd yn helpu i liniaru costau cynyddol ac yn annog pobl i ddychwelyd eitemau y gallai pobl eraill fod eisiau eu defnyddio.
"Mae ein llyfrgelloedd ar agor i bobl o bob oed, yn cynnig lle cyfeillgar a chroesawgar ac yn cynnig cyfleusterau gwych ac amrywiaeth o wasanaethau am ddim sy'n cefnogi ein cymunedau."
Mae manylion am ffioedd a thaliadau Llyfrgelloedd ar gael ar wefan Bro Morgannwg: https://www.valeofglamorgan.gov.uk/cy/enjoying/Libraries/Fees-and-Charges.aspx