Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Mawrth, 09 Mis Mai 2023
Bro Morgannwg
Ar ôl gweithio'n agos gyda Chynghorau Tref a Chymuned a darparwyr digwyddiadau allanol i ddarparu rhaglen y llynedd, bydd y Cyngor unwaith eto yn gweithio gyda sefydliadau a busnesau lleol i ddarparu ystod o ddigwyddiadau fforddiadwy, ledled y sir yn ystod y flwyddyn i ddod.
Mae'r Cyngor yn gwahodd ceisiadau ar gyfer cynllun grant 2023/24 trwy ddwy ffrwd; un ar gyfer cefnogi digwyddiadau sy’n denu ymwelwyr a'r llall i gefnogi digwyddiadau cymunedol lleol.
Rhaid i’r holl ddigwyddiad a ystyrir ar gyfer y cyllid gael eu lleoli ym Mro Morgannwg a dylent fod â photensial cryf i greu rhywfaint o fuddion economaidd a chymdeithasol, megis cyflogaeth, refeniw i fusnesau'r Sir a chodi ymwybyddiaeth am achosion lleol.
Dywedodd Y Cynghorydd Bronwen Brooks, Dirprwy Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg a’r Aelod Cabinet dros Leoedd Cynaliadwy: "Rwy'n falch iawn bod y Cyngor yn gallu cefnogi busnesau a threfnwyr digwyddiadau lleol drwy Gynllun Grant Digwyddiadau 2023/24. "Mae'r cynllun yn gyfle gwych i ddarparwyr gael cyllid i lwyfannu digwyddiadau a fydd yn eu tro yn denu nifer fawr o drigolion ac ymwelwyr, gan roi hwb i economi a diwydiant twristiaeth y Fro. "Rwy'n edrych ymlaen at glywed mwy o fanylion am y ceisiadau llwyddiannus a'r digwyddiadau sydd i ddod."
Dywedodd Y Cynghorydd Bronwen Brooks, Dirprwy Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg a’r Aelod Cabinet dros Leoedd Cynaliadwy: "Rwy'n falch iawn bod y Cyngor yn gallu cefnogi busnesau a threfnwyr digwyddiadau lleol drwy Gynllun Grant Digwyddiadau 2023/24.
"Mae'r cynllun yn gyfle gwych i ddarparwyr gael cyllid i lwyfannu digwyddiadau a fydd yn eu tro yn denu nifer fawr o drigolion ac ymwelwyr, gan roi hwb i economi a diwydiant twristiaeth y Fro.
"Rwy'n edrych ymlaen at glywed mwy o fanylion am y ceisiadau llwyddiannus a'r digwyddiadau sydd i ddod."
Mae rhagor o wybodaeth am Gynllun Grant Digwyddiadau Bro Morgannwg a manylion y digwyddiadau sydd i ddod ar gael ar wefan Ymweld â’r Fro.