Cost of Living Support Icon

 

Mae athrawon yn adrodd gwell ymdeimlad o les yn dilyn prosiect treialu

Ysgol Uwchradd Gatholig Sant Richard Gwyn yw’r ysgol gyntaf yn y sir i weithio mewn partneriaeth â'r elusen iechyd meddwl MIND, gan ddarparu sesiynau y mae mawr eu hangen rhwng staff a chwnselwyr.

 

  • Dydd Gwener, 26 Mis Mai 2023

    Bro Morgannwg



St Richard Gwyn Mind partnership 2

Yn dilyn trafodaethau gyda Phennaeth yr ysgol, David Blackwell, cynlluniodd Mind yn y Fro wasanaeth pwrpasol, a gafodd ei ddarparu yn yr ysgol mewn ystafell bwrpasol â mynediad preifat.

 

Dangosodd yr adroddiadau gynnydd cyffredinol o 33% yn lles staff ac mae gan y ffigurau hyn hyd yn oed fwy o arwyddocâd a phwysigrwydd wrth ystyried bod y Mynegai Lles Athrawon yn 2022 wedi nodi bod 75% o'r holl staff addysgu ledled y DU dan straen.

 

Cyflwynodd Mr Blackwell gyflwyniad yn y seremoni agoriadol swyddogol ddydd Llun a chanmolodd y gefnogaeth a ddarparwyd gan MIND. Dywedodd: “I ddechrau roedd staff ychydig yn amharod i gymryd rhan ond ar ôl ychydig o anogaeth aeth rhai pobl i weld y cwnselydd, Emma.

 

Roedd Emma ac elusen MIND yn wych. Mae'r prosiect lles y gwnaethon nhw ei lunio ar gyfer staff wedi cael effaith wych, wedi cynyddu lles staff, gan eu helpu i reoli straen dyddiol gwaith a bywyd yn well.

 

Gyda'r pwysau sydd ar staff mewn ysgolion, mae gwasanaethau iechyd meddwl yn hanfodol, a byddai'n wych pe bai Llywodraeth Cymru yn gallu cefnogi cynllun fel hyn ym mhob ysgol.”

 

Dywedodd y Prif Gwnselydd Emma Llewellyn fod y bartneriaeth wedi bod yn hollbwysig i staff a disgyblion yr ysgol, meddai: “Mae wedi bod yn bleser gweithio ar y prosiect lles yn Sant Richard Gwyn.

 

Mae staff addysgu o dan bwysau cynyddol ac mae cael y gwasanaeth yma ar y safle wedi eu helpu i gael gafael ar y gefnogaeth nad ydyn nhw efallai wedi cael amser ar ei chyfer tu allan i'r gwaith.”

 

St Richard Gwyn Mind partnership 3

Mae Mind yng Nghymru yn gweithio i sicrhau bod gan bawb yng Nghymru fynediad at y wybodaeth, y cymorth a'r gwasanaethau iechyd meddwl sydd eu hangen arnynt ac mae'n darparu cyngor a chymorth i rymuso unrhyw un sy'n wynebu problem iechyd meddwl.

 

Mae pobl fel Emma yn parhau i wella ansawdd bywyd y rhai sy'n dioddef problemau iechyd meddwl. Cytunodd yr elusen i dreialu'r sesiynau cwnsela i weld a fyddent yn cael effaith gadarnhaol ar y rhai a gymerodd ran.

 

Dywedodd un cyfranogwr dienw: “Mae gallu siarad ag Emma wedi bod yn help enfawr yn dilyn materion personol. Mae wedi rhoi cyfle i drafod profiadau a chael cyngor/cefnogaeth gan wyneb cyfeillgar diduedd.”

 

Ychwanegodd Rheolwr Gweithredol Mind ym Mro Morgannwg, Caroline Chapman: “Rydyn ni’n cydnabod y pwysau aruthrol ar athrawon ac roeddem yn awyddus i ddefnyddio ein harbenigedd i helpu i gefnogi lles staff yr ysgol.

 

Mae ein hagwedd at les yn ymwneud â'r unigolyn, felly nid yw'n un gwasanaeth sy'n addas i bawb, rydyn ni’n gweithio'n agos gyda'r person ac yn edrych ar bob rhan o’i fywyd.”

 

St Richard Gwyn Mind partnership 1

Gall edrych ar ffyrdd o gefnogi lles staff a gweithio gyda sefydliadau arbenigol fel Mind gael effaith gadarnhaol sylweddol ar iechyd meddwl a lles staff, cyfraddau cadw staff ac ansawdd addysgu gwell yn ôl adroddiad diweddar.

 

Dywedodd y Cynghorydd Rhiannon Birch: “Mae lles staff a disgyblion o'r pwys mwyaf i Gyngor Bro Morgannwg, ac rydym yn cefnogi'r bartneriaeth rhwng Mind yn y Fro ac Ysgol Uwchradd Sant Richard Gwyn.

 

Mae'r fenter wedi cael effaith gadarnhaol yn amlwg ac mae'r Cyngor yn gobeithio y bydd ysgolion eraill yn dilyn yr esiampl.”

 

Gallwch ddarganfod mwy am y gwasanaethau y mae MIND yn eu cynnig ac unrhyw wybodaeth berthnasol arall am eu gwasanaethau ar eu gwefan.