Lansio Ymgyrch Elstree 2023 ar draws y Fro
Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi ffurfio partneriaeth gyda sefydliadau diogelwch cymunedol ar gyfer dychweliad ymgyrch diogelwch haf y Fro.

Nod Ymgyrch Elstree yw cyflwyno dull cydweithredol o fynd i'r afael â throseddu, pryderon diogelwch ac ymddygiad gwrthgymdeithasol ar draws cyrchfannau haf poblogaidd y Sir, yn cynnwys Ynys y Barri, Aberogwr, Llynnoedd Cosmeston, a Marina Penarth.
Dros y misoedd nesaf, bydd y Cyngor yn gweithio gyda Heddlu De Cymru, RNLI, Gwylwyr y Glannau, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, Canolfan Derbyn Larymau y Fro, Heddlu Trafnidiaeth Prydain, Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a Chyngor Caerdydd i gynllunio ar gyfer digwyddiadau, rhannu gwybodaeth, ac adolygu a chydlynu ymatebion i ddigwyddiadau.
Dywedodd y Cynghorydd Gwyn John, yr Aelod Cabinet dros Diogelwch Cymunedol: "Mae Timau Diogelwch Cymunedol a Gorfodi’r Cyngor yn gweithio'n agos gyda meysydd gwasanaeth eraill i gadw preswylwyr, ymwelwyr a busnesau'r Fro yn ddiogel trwy gydol y flwyddyn.
"Yn ystod yr haf, mae arfordir a mannau agored y Fro yn denu niferoedd mawr, gan gynyddu'r galw am adnoddau diogelwch cymunedol.
"Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae'r dull partneriaeth o weithio wedi bod yn llwyddiannus yn mynd i'r afael â'r galw hwn ac yn atal ymddygiad gwrthgymdeithasol a throseddu, gan gadw'r gymuned yn ddiogel yn y pen draw.
"Edrychaf ymlaen at glywed am lwyddiannau Ymgyrch Elstree 2023!"
Bydd diweddariadau rheolaidd am #OpElstree ar gael ar dudalen Twitter Cyngor Bro Morgannwg.