Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Iau, 25 Mis Mai 2023
Bro Morgannwg
Cytunwyd yng nghyfarfod cabinet y Cyngor ar 25 Mai 2023 y byddai'r awdurdod yn llofnodi Siarter Creu Lleoedd Cymru ac wrth wneud hynny yn cael mynediad at gyllid gan Lywodraeth Cymru. Bydd hyn yn cael ei ddefnyddio i wella sut mae'r Cyngor yn gweithio gyda chymunedau lleol i nodi blaenoriaethau datblygu.
Dywedodd y Cynghorydd Bronwen Brooks, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Leoedd Cynaliadwy: "Mae creu lleoedd yn allweddol i sicrhau bod ein cymunedau'n ffynnu yn yr hinsawdd economaidd bresennol. "Mae'n rhaid i ni sicrhau bod gan ein trefi amgylcheddau adeiledig a naturiol sydd wedi'u cynllunio'n dda. Mae ansawdd yr amgylcheddau hyn yn aml yn ffactor allweddol yn iechyd a lles y cymunedau sy'n byw ynddynt. Mae dod yn llofnodwr i’r Siarter Creu Lleoedd yn ymrwymiad cyhoeddus i ddarparu lleoedd o safon i bawb yn y Fro. "Trwy lofnodi'r Siarter rydym yn addo cefnogi’r dull creu lleoedd ym mhob maes perthnasol o'n gwaith a hyrwyddo'r chwe egwyddor creu lleoedd wrth gynllunio, dylunio a rheoli lleoedd newydd a phresennol."
Dywedodd y Cynghorydd Bronwen Brooks, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Leoedd Cynaliadwy: "Mae creu lleoedd yn allweddol i sicrhau bod ein cymunedau'n ffynnu yn yr hinsawdd economaidd bresennol.
"Mae'n rhaid i ni sicrhau bod gan ein trefi amgylcheddau adeiledig a naturiol sydd wedi'u cynllunio'n dda. Mae ansawdd yr amgylcheddau hyn yn aml yn ffactor allweddol yn iechyd a lles y cymunedau sy'n byw ynddynt. Mae dod yn llofnodwr i’r Siarter Creu Lleoedd yn ymrwymiad cyhoeddus i ddarparu lleoedd o safon i bawb yn y Fro.
"Trwy lofnodi'r Siarter rydym yn addo cefnogi’r dull creu lleoedd ym mhob maes perthnasol o'n gwaith a hyrwyddo'r chwe egwyddor creu lleoedd wrth gynllunio, dylunio a rheoli lleoedd newydd a phresennol."
Creu lleoedd yw'r broses ragweithiol a chydweithredol o greu a rheoli lleoedd. Mae Cymru'r Dyfodol: Cynllun Cenedlaethol 2040 a pholisi cynllunio cenedlaethol yn nodi bod creu lleoedd yn hanfodol i gyflawni datblygu cynaliadwy a gwella lles cymunedau.
Bydd gwaith creu lleoedd yn cael ei arwain gan dîm Cymunedau Creadigol y Cyngor. Mae'r tîm eisoes yn gweithio i gefnogi Cyngor Tref y Bont-faen yn eu gweithgareddau creu lleoedd ac yn y gorffennol mae wedi arwain gwaith creu lleoedd llwyddiannus yn y Barri.
Dywedodd y Cynghorydd Malcolm Wilson, Maer y Bont-faen: "Rydyn ni yn y Bont-faen gyda Chyngor Tref Llanfleiddan yn gyffrous i fod yn gweithio mewn partneriaeth â Chyngor y Fro a threfi eraill ledled y Fro i ddatblygu cynllun Creu Lleoedd arloesol. Bydd y cynllun yn rhoi llais gwirioneddol i gymunedau’r Bont-faen a Llanfleiddan yn natblygiad y dref dros y deng mlynedd nesaf a chyfle i gyfrannu at - a dylanwadu ar - bolisïau ehangach ledled y Fro sy'n effeithio ar ein tref a'i phobl."
Dywedodd y Cynghorydd Malcolm Wilson, Maer y Bont-faen: "Rydyn ni yn y Bont-faen gyda Chyngor Tref Llanfleiddan yn gyffrous i fod yn gweithio mewn partneriaeth â Chyngor y Fro a threfi eraill ledled y Fro i ddatblygu cynllun Creu Lleoedd arloesol.
Bydd y cynllun yn rhoi llais gwirioneddol i gymunedau’r Bont-faen a Llanfleiddan yn natblygiad y dref dros y deng mlynedd nesaf a chyfle i gyfrannu at - a dylanwadu ar - bolisïau ehangach ledled y Fro sy'n effeithio ar ein tref a'i phobl."