Cyngor yn cyhoeddi newidiadau i gasgliadau gwastraff gardd a sbwriel o fis Gorffennaf
Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi cyhoeddi y bydd yn cyflwyno newidiadau i gasgliadau gwastraff gardd a sbwriel o fis Gorffennaf ymlaen
Yn gynharach eleni cytunodd Cabinet y Cyngor i symud i gasgliadau bob tair wythnos ar gyfer bagiau sbwriel du. Bydd yr amserlen newydd hon ar gyfer casgliadau yn dechrau o 3 Gorffennaf.
Caiff pob cartref lythyr yn esbonio'r newidiadau a chalendr newydd ar gyfer eu dyddiadau casglu sbwriel o hyn ymlaen.
Ni fydd faint o wastraff y gall aelwydydd ei roi allan i'w gasglu yn newid - ar hyn o bryd mae hyn yn un bag yr wythnos, a gesglir bob pythefnos, i'r rhan fwyaf o aelwydydd. Wrth symud ymlaen, bydd y Cyngor yn casglu hyd at dri bag i bob cartref bob tair wythnos.
Mae rhai eithriadau yn berthnasol, a bydd y rhain yn parhau i fod ar waith. Er enghraifft, gall preswylwyr ddefnyddio cadis hylendid ar gyfer storio a gwaredu cewynnau a gwastraff hylendid arall.
O 17 Gorffennaf ni fydd y Cyngor yn casglu gwastraff gardd am ddim. Bydd angen i breswylwyr a hoffai ddefnyddio'r gwasanaeth hwn dalu ffi danysgrifio flynyddol.
Ar gyfer gweddill eleni, bydd y Cyngor yn codi £20 am gasglu hyd at wyth bag o wastraff gardd bob pythefnos. Neu £30 i aelwydydd sydd angen defnyddio mwy nag wyth bag i waredu eu gwastraff gardd.
Gan esbonio'r rhesymau dros y newidiadau dywedodd y Cynghorydd Mark Wilson, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdogaeth a Thrafnidiaeth: "Mae'r newidiadau hyn i'n gwasanaethau yn angenrheidiol oherwydd y pwysau aruthrol ar gyllideb y Cyngor. Nid oes rhaid i ni gynnig casgliadau gwastraff gardd yn ôl y gyfraith ond hoffem barhau i gynnig y gwasanaeth hwn, gan ein bod yn gwybod bod preswylwyr yn ei werthfawrogi, ond i wneud hyn mae angen i ni godi tâl amdano.
“Mae defnyddio'r tâl newydd hwn i'r gwasanaeth hefyd yn ei gwneud hi’n decach i drigolion nad ydyn nhw’n cynhyrchu gwastraff gardd, sy’n dewis compostio gartref, neu sy’n dewis peidio â defnyddio'r gwasanaeth. Bydd y rhai sy'n ei ddefnyddio yn talu amdano.
"Mae nifer o gynghorau eraill yng Nghymru yn gwneud newidiadau i ba mor aml maen nhw'n casglu bagiau du ac yn cyflwyno taliadau am wasanaethau gwastraff gardd er mwyn gwneud arbedion."