Gwasanaeth Ieuenctid y Fro yn Dathlu Gweithwyr Ieuenctid mewn Seremoni Wobrwyo
Dathlwyd cyflawniadau pobl ifanc, gwirfoddolwyr ieuenctid a gweithwyr ieuenctid o Fro Morgannwg mewn seremoni wobrwyo yng Nghlwb Pêl-droed Tref Y Barri yr wythnos hon.
Cafodd gwirfoddolwyr ieuenctid a Staff Gwasanaeth Ieuenctid y Fro eu dathlu yn y digwyddiad am eu gwaith o gyfrannu at gyfleoedd ieuenctid yn y Fro, eu heffeithiau cadarnhaol ar y gymuned ieuenctid, a'u hymroddiad i wella gwasanaethau ieuenctid.
Cyhoeddwyd enillwyr 8 categori gwahanol yn tynnu sylw at y gwaith hanfodol y mae gwirfoddolwyr a staff y Gwasanaeth Ieuenctid yn ei wneud ledled y Fro.

Dywedodd y Cynghorydd Ewan Goodjohn, Hyrwyddwr Ieuenctid Bro Morgannwg: “Fel Hyrwyddwr Ieuenctid Bro Morgannwg, rwy'n angerddol dros sicrhau bod pob person ifanc o'r Fro yn cael ei ddathlu a’i annog i fod y gorau y gall fod.
“Roedd hi'n noson mor wych yn Nathliad Gwasanaeth Ieuenctid y Fro i gydnabod rhai o gyflawniadau anhygoel pobl ifanc o bob rhan o'r Fro.”
Enwebwyd 26 o bobl ifanc unigol ar gyfer gwobrau Cyflawniad Ieuenctid, Ysbrydoliaeth Ieuenctid, Gwirfoddolwr Ieuenctid ac Arwr Ieuenctid, ynghyd â grwpiau ieuenctid ar gyfer Gwobr Prosiect y Flwyddyn.
Dathlwyd staff Gwasanaeth Ieuenctid y Fro hefyd gyda Gweithiwr Ieuenctid y Flwyddyn a Gwobrau Ymroddiad Staff, yn ogystal â'r Wobr Gwirfoddolwr Oedolion.

Dywedodd Y Cynghorydd Rhiannon Birch, Aelod Cabinet dros Addysg, y Celfyddydau a'r Gymraeg: “Roedd hi’n bleser pur cael bod yn rhan o noson mor wych i ddathlu cymaint o wahanol gyflawniadau.
“Yn ogystal â dathlu llwyddiannau llawer o bobl ifanc o bob rhan o'r Fro, roedd y digwyddiad hefyd yn gyfle i gydnabod Staff Gwasanaeth Ieuenctid y Fro.
“Roedd hi mor wych gweld yr amrywiaeth o brosiectau a'r gefnogaeth y mae Gwasanaeth Ieuenctid y Fro yn ei chynnig i bobl ifanc ledled ein Sir.
“Hoffwn ddiolch i Wasanaeth Ieuenctid y Fro am ei waith caled a'i ymroddiad i gael effaith mor gadarnhaol ar gynifer o bobl ifanc ac am drefnu digwyddiad mor wych.”
Roedd y seremoni wobrwyo yn rhan o raglen Wythnos Gwaith Ieuenctid Gwasanaeth Ieuenctid y Fro, sy'n arddangos ac yn dathlu effaith ac amrywiaeth gwaith ieuenctid ledled Cymru.
Mae Wythnos Gwaith Ieuenctid Cymru hefyd yn ceisio hyrwyddo dealltwriaeth a chefnogaeth ehangach ar gyfer gwaith ieuenctid. Mae Gwasanaeth Ieuenctid y Fro wedi treulio'r wythnos ddiwethaf yn arddangos ac yn hyrwyddo'r holl gyfleoedd gwych sydd ar gael i bobl ifanc ym Mro Morgannwg.
Y Categorïau a’r Enillwyr:
Gwirfoddolwr Ifanc – Ashleigh Watkins
Dathlu amser ac ymroddiad a roddir yn wirfoddol.
Cyflawniad Ieuenctid – Dionne McCarthy
Dathlu cyflawniad rhagorol a sgiliau newydd a enillwyd.
Ysbrydoliaeth Ieuenctid – Macey Young
Dathlu effaith gadarnhaol ac esiampl gadarnhaol i eraill.
Arwr Ieuenctid – Belle Louise Evans
Dathlu newid personol cadarnhaol eithriadol ar hyd eu taith bersonol.
Prosiect y Flwyddyn – Ei Llais Cymru
Dathlu prosiect neu dîm yng Ngwasanaeth Ieuenctid y Fro am gael effaith drawsnewidiol
Gwirfoddolwr Sy’n Oedolyn - Owain-Rhys Perkins-Rudge
Dathlu amser ac ymroddiad a roddir yn wirfoddol.
Gweithiwr Ieuenctid y Flwyddyn - Tracy Mills
Dathlu aelod o staff sydd wedi mynd yr ail filltir ac sy’n ysbrydoliaeth i bawb.
Gwobr Ymroddiad Staff - Peter Williams
Dathlu amser, ymroddiad a hyd gwasanaeth.