Cost of Living Support Icon

 

Ambiwlans Sant Ioan yn dyrannu cerbyd ymateb o'r radd flaenaf i Wasanaeth Ymateb i Gwympiadau Telofal y Fro

Teleofal y Fro yw gwasanaeth larwm cartref y Cyngor sy'n cynnig amrywiaeth o wasanaethau i oedolion bregus.

 

  • Dydd Iau, 08 Mis Mehefin 2023

    Bro Morgannwg



Mae preswylwyr yn prydlesu uned larwm a synwyryddion eraill sy'n cael eu monitro 24/7, 365 diwrnod y flwyddyn gan weithredwyr Teleofal sydd wedi'u lleoli yng nghanolfan C1V, Y Barri.

 

Mae gweithredwyr teleofal yn cynorthwyo preswylwyr gydag amrywiaeth o argyfyngau, o synau uchel yng nghanol y nos i argyfyngau meddygol. Ond un o wasanaethau pwysicaf Teleofal yw'r Gwasanaeth Ymateb i Gwympiadau.

 

St John Ambulance Fall Response Vehicle

Fel rhan o'r Gwasanaeth Ymateb i Gwympiadau, mae Ambiwlans Sant Ioan wedi dyrannu cerbyd newydd o'r radd flaenaf Toyota RAV4 Hybrid i'w ddefnyddio wrth ofalu am ddefnyddwyr Teleofal y Fro.

 

Mae'r Gwasanaeth Ymateb i Gwympiadau’n cynnig cymorth ar unwaith i breswylwyr sy'n sbarduno eu larwm pan fyddant yn cwympo neu'n cael damwain.

 

Bydd eu larwm - sy'n wisgadwy fel breichled neu laniard - yn cysylltu preswylydd â Gweithredwr Teleofal yn syth pan fydd yn cael ei wasgu. Mewn damweiniau ac argyfyngau, bydd Ambiwlans Sant Ioan yn teithio ar unwaith i gartref y preswylydd i roi sylw meddygol.

 

Nawr, mae ganddyn nhw gerbyd Toyota newydd sbon i'w ddefnyddio'n llawn ar gyfer ymateb i gwympiadau. Fel cerbyd hybrid, mae ganddo danc tanwydd a batri trethadwy sy'n hunan-godi pan fydd y cerbyd yn cael ei ddefnyddio.

Dwedodd y Cynghorydd Eddie Williams, yr  Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd: "Mae Teleofal yn wasanaeth hanfodol y mae'r Cyngor yn ei gynnig sy'n rhoi mwy o ymdeimlad o annibyniaeth i rai o'n trigolion mwyaf agored i niwed.

 

"Gan fod ein gweithredwyr Teleofal yn monitro'r systemau larwm 24/7, gall pobl fregus sy'n byw'n annibynnol fod yn dawel eu meddwl mai dim ond gwthio un botwm sydd raid i gael cymorth yn ystod argyfyngau.

 

"Gyda dyraniad Cerbyd Ymateb i Gwympiadau newydd gan Ambiwlans Sant Ioan, mae ein hymatebwyr bellach mewn gwell sefyllfa i gynorthwyo ein defnyddwyr Teleofal pan fyddant yn cwympo, llewygu ac yn cael  ac argyfyngau meddygol.

 

"Rydym hefyd yn falch o weld bod y Cerbyd Ymateb i Gwympiadau newydd yn gerbyd trydan hybrid a fydd yn cyfrannu at nod Prosiect Sero'r Cyngor i ddod yn garbon niwtral erbyn 2030."

Mae hefyd wedi cael ei osod â'r cyfarpar cwympiadau diweddaraf fel y nodir gan Wasanaeth Ambiwlans Sant Ioan, gyda'r gallu i godi unrhyw offer trydanol o'r tu mewn i'r cerbyd ei hun. Bydd hyn yn sicrhau, pan fydd Sant Ioan yn cyrraedd galwad Teleofal, bod yr holl offer yn barod i'w defnyddio.

 

Mae tu allan y cerbyd hefyd yn cynnwys dyluniad gwyn, melyn a du trawiadol gyda "Ymateb i Gwympiadau" wedi'i ysgrifennu ar draws yr ochrau.