Lansio ymgyrch y cyngor i gefnogi busnesau canol tref Bro Morgannwg
Mae siopwyr ar draws Bro Morgannwg yn cael eu hannog i "ddangos cariad a siopa'n lleol" fel rhan o ymgyrch fawr gyda'r nod o ysgogi gwariant lleol.
Mae Cyngor Bro Morgannwg yn galw ar bobl i fynd i ganol eu trefi lleol yn Y Barri, Y Bont-faen, Penarth a Llanilltud Fawr mewn ymgais i gefnogi busnesau annibynnol.
Mae'r cyngor yn gwneud yr alwad wrth iddo lansio ei ymgyrch 'Siopa’n Lleol' Canol Trefi'r Fro, sy'n ceisio cynorthwyo strydoedd mawr ar draws y Fro sydd wedi gweld masnach yn cael ei heffeithio'n ddifrifol yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Ar ôl goroesi heriau digynsail pandemig COVID19, mae'r stryd fawr ym Mro Morgannwg yn parhau i wynebu cyfnod anodd oherwydd arferion siopa newidiol defnyddwyr a'r heriau economaidd ehangach y mae'r wlad yn eu hwynebu.
Daw hyn ar ôl i ymchwil gan y cyngor ddatgelu bod 94% o fusnesau yn dweud eu bod yn poeni am yr effaith barhaus y mae argyfwng costau byw/ynni yn ei chael arnyn nhw..
Mewn ymgais i annog pobl i gefnogi busnesau canol trefi, bydd yr ymgyrch yn amlygu'r rhesymau cadarnhaol niferus i bobl 'siopa'n lleol' a chefnogi masnachwyr lleol.
Mae ei hymchwil yn dangos, am bob £5 yr wythnos sy'n cael ei wario mewn busnesau annibynnol lleol yng nghanol pedair tref y Fro, y bydd £26 miliwn yn cael ei roi’n ôl i'r economi leol bob blwyddyn.
Mae Bronwen Brooks, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Lleoedd Cynaliadwy yn annog siopwyr i gefnogi eu strydoedd mawr lleol yn ystod y cyfnod heriol hwn, ac ychwanegodd bod "eu hangen arnoch nawr yn fwy nag erioed".
"Mae'r blynyddoedd diwethaf wedi cael effaith ddinistriol ar ein masnachwyr annibynnol ar draws canol trefi'r Fro. Nid yn unig maen nhw wedi wynebu pandemig y coronafeirws, ond maen nhw nawr yn delio ag argyfyngau costau byw ac ynni parhaus.
"Mae busnesau sy'n cael eu rhedeg yn annibynnol yn gwbl ddibynnol ar gefnogaeth pobl leol er mwyn goroesi - heb hynny ni fydd ein strydoedd mawr yn ffynnu.
"Dyna pam ein bod yn lansio ein hymgyrch 'Siopa’n Leol' Canol Trefi'r Fro ac yn cefnogi’n llwyr ein masnachwyr annibynnol hanfodol.
"Byddem yn annog pawb i 'ddangos cariad a siopa'n lleol' i gefnogi busnesau yn y Bont-faen, Y Barri, Penarth a Llanilltud Fawr.
"Mae ein hymchwil yn dangos bod pobl leol yn dweud eu bod yn awyddus i siopa'n lleol ac mae'n rhaid trosi hyn yn weithredu ar ein strydoedd mawr. Dangoswch eich cefnogaeth a meddwl yn lleol, mae nhw eu hangen chi nawr yn fwy nag erioed."
Dywedodd Alys Gwyneth, perchennog Stwff-Stuff, yn y Bont-faen a Llanilltud Fawr,: "Mae canol ein trefi yn cynnig dewis eang ac amrywiol o fanwerthwyr a thrwy gefnogi masnachwyr annibynnol bach ar eich stryd fawr, nid yn unig rydych chi'n cefnogi busnes lleol, rydych yn buddsoddi yn eich cymuned leol, gan ei gwneud yn lle gwell i fyw, gweithio ac ymweld ag ef; rhoi hwb i'ch economi leol, wrth greu a diogelu swyddi lleol; lleihau eich ôl troed carbon, sy'n well i'r amgylchedd a'ch iechyd; a diogelu calon eich cymuned, gan helpu canol eich tref leol i ffynnu.
Dywedodd Sue Guy, cyd-berchennog High Society yn Llanilltud Fawr, "Mae pob pryniant bach wir yn gwneud gwahaniaeth mawr pan fyddwch chi'n siopa'n lleol, felly byddem yn croesawu cefnogaeth pawb."
I gael gwybod mwy am ymgyrch Canol Trefi’r Fro a sut y gallwch gefnogi'ch stryd fawr, ewch i @valetowncentres ar y cyfryngau cymdeithasol ac ewch i Dangoswch Gariad. Siopa'n Lleol | Ysbrydoliaeth gan Ymweld â’r Fro