Campws newydd Ysgol Y Deri i agor yn Y Barri
Mae mwy na £150,000 yn cael ei fuddsoddi gan Gyngor Bro Morgannwg i sefydlu ail ganolfan ar gyfer ysgol arobryn Ysgol Y Deri ar gyfer plant ag anghenion dysgu ychwanegol.
Bydd yr adeilad a arferai fod yn gartref i Ysgol Sant Baruc yn y Barri yn cael ei adnewyddu a'i ôl-osod ag ystod o offer arbenigol i ddarparu amgylchedd dysgu bywiog a diogel i 60 o ddisgyblion a staff.
Bydd Ysgol y Deri Y Barri yn cynnwys nodweddion fel ystafell goginio, ystafell therapi, derbynfa newydd a mannau ymneilltuo i rieni a gofalwyr ac ystafell fwyta bwrpasol ar y safle.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, y Celfyddydau a'r Gymraeg – Y Cynghorydd Rhiannon Birch: “Mae ein tîm Ysgolion yr 21ain Ganrif wedi gweithio gyda chydweithwyr yn Ysgol Y Deri i greu cynigion ar gyfer yr ysgol a fydd yn teimlo fel cwtsh i'r plant a'r bobl ifanc hynny sy'n cael eu haddysgu yma.
“Gan mai dim ond chwarter y disgyblion fydd yn yr adeilad erbyn hyn o'i gymharu â phan oedd yn gartref i Ysgol Sant Baruc, mae lle i newid y tu mewn yn sylweddol iawn.
“Mae Ysgol Y Deri yn cael ei chanmol yn briodol am ei chyfleusterau. Mae campws newydd y Barri yn rhoi cyfle i ni gymryd yr holl elfennau dylunio a thechnoleg sy'n gwneud yr ysgol ym Mhenarth yn wych a'u rhoi mewn lleoliad llai, mwy cartrefol.
“Mae'r staff yn teimlo'n wirioneddol gyffrous am y cynlluniau ac rwy'n gobeithio y bydd rhieni a disgyblion yn teimlo yr un ffordd ar ôl clywed y newyddion.”
Bydd y gwaith yn dechrau ar yr adeilad ym mis Gorffennaf gyda'r bwriad o agor ei ddrysau i ddisgyblion ym mis Medi.
Mae Ysgol Y Deri Y Barri yn cael ei hagor fel ateb dros dro tra bod adeilad pwrpasol newydd, a elwir yn Ysgol y Deri 2 ar hyn o bryd, yn cael ei ddatblygu yn Cosmeston, ger Penarth.
Dywedodd Chris Britten, Pennaeth Ysgol Y Deri: “Mae llwyddiant ysgubol Ysgol Y Deri yn golygu bod ein hysgol eisoes wedi’i gordanysgrifio. Ar yr un pryd, mae'r galw a chymhlethdod anghenion yn parhau i dyfu'n gyflym. Er budd gorau'r plant a'r bobl ifanc rydym yn eu cefnogi, ni allwn aros i'r adeilad newydd agor.
“Rydyn ni eisiau i’r amgylchedd dysgu gwych rydyn ni'n ei gynnig fod ar gael i gynifer o blant a phobl ifanc â phosibl. Heb adeilad newydd, byddai hynny’n golygu cyfaddawdu ar feintiau dosbarthiadau, ac ni fyddai hyn yn gwella profiad y rhai sydd eisoes yn astudio gyda ni.
“Bydd Ysgol Y Deri Y Barri yn rhoi lle i ddisgyblion sydd wedi'i gynllunio i ddiwallu eu hanghenion fel rhan o'r cyfnod pontio hwn. Rydyn ni’n cefnogi disgyblion o bob rhan o'r Fro ac felly bydd hefyd yn gwneud teithio i'r ysgol yn haws i lawer.
“Bydd y gwaith adnewyddu yn gwneud iddi deimlo fel estyniad naturiol i'n hysgol ym Mhenarth, ac yn bwysicaf oll yn gwneud iddi deimlo fel cartref i'r rhai sy'n ei mynychu.”
Yn gynharach yn y mis, cadarnhaodd Llywodraeth Cymru na fyddai'n ymyrryd yn y broses gynllunio ar gyfer Ysgol Y Deri 2. Mae hyn yn golygu bod Cyngor Bro Morgannwg bellach yn gallu dechrau datblygu yn unol â'r cynlluniau a gafodd eu cymeradwyo ym mis Mawrth. Bydd y gwaith o adeiladu'r adeilad newydd yn dechrau yr haf hwn.