Lloches Newydd Penarth yn Agor
Mae lloches newydd wedi ei hagor yn swyddogol ar Cliff Hill ym Mhenarth gan Gyngor Bro Morgannwg.
Mae'r adeiledd wedi'i ysbrydoli gan y lloches flaenorol a oedd wedi sefyll yn yr un fan ers 1890.
Penderfynodd ymgynghoriad cyhoeddus ym mis Mawrth 2021 gadw cymeriad a nodweddion gwreiddiol presennol y lloches lle bynnag y bo modd, er mwyn adlewyrchu hanes y lleoliad a dathlu straeon lleol.
Ariannwyd y prosiect gan arian celf gyhoeddus Adran 106 o ddatblygiad tai Penarth Heights gerllaw a chostiodd tua £100k.
Dywedodd y Cynghorydd Lis Burnett, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg: "Mae hwn yn ychwanegiad gwych at y daith gerdded arfordirol hardd ar hyd Cliff Hill ac yn rhoi lle i'r cyhoedd orffwys a chysgodi rhag yr elfennau.
"Gobeithio y bydd y cyfeiriadau at hanes Penarth yn annog trigolion i oedi am gyfnod ac ymgysylltu â'r cynllun newydd.
"Mae'r lloches newydd yn addas ar gyfer yr ardal ac yn atgoffa pobl am straeon enwog ddoe, ac rydym yn gobeithio y bydd pawb yn ei mwynhau."
Penodwyd Aberrant Architecture yn dilyn galwad i artistiaid a/neu benseiri ail-adeiladu ac ail-ddychmygu'r lloches ar gyfer yr 21ain ganrif. Ail-ddarluniodd y dylunwyr David Chambers a Kevin Haley loches newydd a swyddogaethol sy'n crynhoi hanes Penarth.
Dywedodd David Chambers: "Er bod ein dyluniad cysgod newydd ar yr un raddfa a siâp â'i ragflaenydd, rydym hefyd wedi ailgyflwyno ffenestri gwydr a rhaniadau mewnol, yn yr un modd â'r lloches hanesyddol, i gyflwyno amrywiaeth o fannau poced o wahanol feintiau.
"Rydym wedi ymhyfrydu'n fawr ym manylion personol y lloches newydd i helpu i greu ymdeimlad o le, er enghraifft mae'r gorchudd to rhychog du a chladin pren hefyd yn cyfeirio at y llwch glo du a orchuddiodd adeiladau yn ystod y 19eg ganrif, sef oes aur allforio glo Dociau Penarth."
Ychwanegodd Kevin Haley: "Mae delltwaith to 'pen asyn' gwyn yn dathlu'r reidiau asynnod a gynigiwyd ar hyd y traeth yn ystod y cyfnod hwn, adeg pan oedd Penarth hefyd yn cael ei hadnabod fel 'Donkey Island'. Mae'r lliwiau du a gwyn hefyd yn coffáu tîm rygbi'r Barbariaid a'u cartref ysbrydol oedd Gwesty Esplanade gerllaw.
"Mae'r lloches newydd yn driw i'w chyn-hunan, gan eistedd yn hapus yn ei lleoliad gwreiddiol, ond mae hefyd yn amlwg yn ddehongliad modern o loches, gan gynnig lle i bobl o bob oed orffwys, cwrdd a mwynhau'r golygfeydd."
Er gwaethaf ymddangosiad gwael y lloches flaenorol, roedd trigolion yn awyddus i beidio â cholli'r lloches ac yn cefnogi'r cynnig i'w hail-gomisiynu. Achubwyd deunyddiau y gellid eu hailddefnyddio o'r adeiledd blaenorol i gadw rhai o'r nodweddion allweddol.
Dywedodd Joe Tomalin-Reeves, y Gweithiwr Dymchwel a Gwaith Daear: "Roedden ni eisiau cydnabod yr elfennau hanesyddol o'r hen loches a llwyddo i ailddefnyddio rhai o'r nodweddion oedd yn dal yn gyfan."
Dyma'r enghraifft ddiweddaraf o'r Cyngor yn sicrhau cyllid Adran 106 o ddatblygiadau newydd er budd y gymuned ehangach ac, yn un o lawer o fentrau a chomisiynau celf gyhoeddus sy'n cael eu cynnal ym Mro Morgannwg ar hyn o bryd.
Bydd mwy o wybodaeth am y prosiectau hyn yn dilyn yn fuan