Disgyblion Cynradd Holton yn Dathlu Diwrnod Windrush gydag Arddangosfa Celf a Barddoniaeth
Mae disgyblion Ysgol Gynradd Holton yn Y Barri wedi dadorchuddio arddangosfa o waith celf i ddathlu Diwrnod Windrush 2023.
Gweithiodd disgyblion Blwyddyn 6 gyda'r artist Prith B o Gaerdydd i greu portreadau o aelodau o gymuned eu hysgol o gefndiroedd amrywiol. Trwy gyfweliadau, rhoddwyd cyfle i'r plant ennill dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth o brofiadau byw go iawn mewn perthynas â pherthyn, a sut gallai'r profiadau hynny ddylanwadu ar sut maen nhw am gael eu cynrychioli yn eu portreadau.
Gwahoddwyd aelodau o Gabinet Cyngor Bro Morgannwg i'r ysgol i weld y gwaith ac ymuno yn y dathliadau Windrush ddydd Iau 22 Mehefin.

Dywedodd y Cynghorydd Ruba Sivagnanam, yr Aelod Cabinet dros Ymgysylltu, Cydraddoldeb a Gwasanaethau Rheoliadol: "Rydym ni fel Cyngor yn falch o gynrychioli cymunedau ar draws y Fro y mae llawer o bobl ddiwylliannol-amrywiol yn rhan ohonynt.
“Mae 75ain mlwyddiant Windrush yn gyfle i ddathlu Prydain amrywiol, yn gyfle i ddangos diolch i bedair cenhedlaeth o gyfraniad, etifeddiaeth, ymdrech a newid cadarnhaol.
"Daw'r achlysur hwn ar adeg o drafodaeth gyhoeddus a gwleidyddol am faterion ymfudo, hil a hanes; trafodaeth sydd yn rhy aml yn gas ac yn hollti cymdeithas. Yma yn y Fro, mae Windrush yn gyfle i ddod â chymunedau ynghyd, cymunedau sydd wedi meithrin a ffynnu ochr yn ochr â'i gilydd ers cenedlaethau.
"Wrth i ni ddathlu hanes anhygoel Windrush a'r etifeddiaeth y mae wedi'i chreu, edrychwn at ddyfodol y Fro a'n gwaith at ddod yn Sir Noddfa lle bydd croeso i unrhyw un yn ein cymunedau."
Bu'r plant hefyd yn ffodus i weithio gyda'r artist gair llafar Duke Durham i greu cerddi yn seiliedig ar aelodau'r gymuned a oedd yn rhan o'r prosiect, a berfformiwyd ganddynt yn y digwyddiad.
Roedd dathliad Windrush yn rhan o brosiect ehangach y mae disgyblion wedi bod yn gweithio arno i gael dealltwriaeth o hanes a datblygiad Cymru fel cymdeithas ddiwylliannol-amrywiol, gan sbarduno taith Ysgol Gynradd Holton i ddod yn ysgol wrth-hiliol a datblygu cwricwlwm dad-drefedigaethol.

Mae 2023 yn nodi 75 mlynedd ers i’r HMT Empire Windrush gyrraedd Prydain ar 22 Mehefin 1948, pan ddociodd dros 1000 o deithwyr o bob rhan o'r Gymanwlad yn Nociau Tilbury, Essex.
Roedd dros 800 o'r teithwyr yn dod o'r Caribî, gydag eraill o India, Pacistan, Kenya a De Affrica.
Nid y rhain oedd y bobl gyntaf o blith y Mwyafrif Byd-eang i ddod i Brydain, ond agorodd y teithwyr Windrush ddrws i genhedlaeth o bobl a ddaeth o'r Gymanwlad yn y 50au, y 60au a'r 70au i ateb galwad y llywodraeth i helpu i ailadeiladu gwledydd Prydain ar ôl yr Ail Ryfel Byd.
Gwnaethant greu etifeddiaeth amhrisiadwy ym mhob agwedd ar fywyd Prydain, o'r celfyddydau, cerddoriaeth, bwyd, chwaraeon, meddygaeth a mwy, gan helpu i sefydlu'r Brydain amlddiwylliannol rydym yn ei hadnabod heddiw.
Ariannwyd y prosiect gan grant Cynefin Youth Cymru i ddisgyblion feithrin dealltwriaeth o'r diwylliannau a'r cymunedau sy'n ffurfio’r Gymru gyfoes, archwilio profiad a chyfraniadau pobl ddiwylliannol- ac ethnig-amrywiol yng Nghymru, ddoe a heddiw, a chydweithio â gweithwyr proffesiynol creadigol i ddatblygu ystod o sgiliau artistig.