Cyngor yn lansio ymgyrch i wella presenoldeb ysgolion
Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi lansio ymgyrch i fynd i'r afael â bwlch mewn presenoldeb ar draws y sir.
Bydd y Cyngor yn gweithio gydag ysgolion i annog disgyblion a'u rhieni i wneud mynychu'r ysgol bob dydd yn flaenoriaeth, mewn ymgais i ddod â phresenoldeb yn ôl i fyny at fwy na 95% ledled y sir.
Ers pandemig COVID19 mae ysgolion ledled Cymru wedi gweld gostyngiad yn nifer y bobl sy'n mynychu. Ym Mro Morgannwg mae lefelau presenoldeb wedi gostwng 5% ar gyfartaledd mewn ysgolion cynradd a 10% mewn ysgolion uwchradd.
Mae'r ymgyrch yn dangos manteision ehangach gwella presenoldeb ysgol. Mae ysgolion yn cynnig cymaint o gyfleoedd i fodloni anghenion cymdeithasol, emosiynol ac addysgol person ifanc a gall presenoldeb gwael leihau cyfleoedd i blant a phobl ifanc yn y dyfodol yn y pen draw.
Prif neges yr ymgyrch yw 'Presenoldeb Cryf ar gyfer Dyfodol Disglair'.
Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, y Celfyddydau a'r Gymraeg – Y Cynghorydd Rhiannon Birch: "Rydym am weld presenoldeb yn gwella fel bod pob person ifanc yn y Fro yn ymgysylltu â'u hysgol a'u dysgu. Dylid annog disgyblion i fanteisio ar yr holl gyfleoedd y mae ysgolion yn eu cynnig er mwyn llwyddo.
"Gallai presenoldeb 95% swnio fel targed uchelgeisiol, fodd bynnag, mae hynny'n caniatáu absenoldeb o bum diwrnod yn y flwyddyn ysgol, os oes ei angen oherwydd salwch, ac mae'r targed hwn yn gyraeddadwy i'r mwyafrif o blant a phobl ifanc.
"Rydyn ni'n gwybod bod gan ddisgyblion siawns well o lwyddo mewn addysg ac yn ddiweddarach mewn bywyd trwy fynychu'r ysgol yn gyson."
Mae pobl ifanc wedi bod yn sbardun wrth ddylunio'r ymgyrch newydd hon i annog teuluoedd, plant a phobl ifanc i atgoffa pawb o'r hyn sydd i'w ennill trwy bresenoldeb da yn yr ysgol.
Dyluniodd disgyblion Ysgol Llanilltud Fawr eu baneri eu hunain i annog gwell presenoldeb a dyma oedd sail yr ymgyrch ehangach a fydd yn cael ei chyflwyno i bob ysgol ar draws y sir o heddiw ymlaen.