Cost of Living Support Icon

 

Y Cyngor yn trwsio fandaliaeth i fainc enfys yn y Bont-faen a roddwyd i nodi mis Pride

Yr wythnos diwethaf, dadorchuddiodd Cyngor Bro Morgannwg fainc newydd sbon yn y Bont-faen a oedd yn cynnwys dyluniad enfys. Rhoddodd y Cyngor y fainc i nodi digwyddiadau Pride cyntaf y Bont-faen yn 2022 ac i gychwyn dathliadau mis Pride.

  • Dydd Mawrth, 06 Mis Mehefin 2023

    Bro Morgannwg



Cowbridge Pride Bench

Mae mis Mehefin yn cael ei gydnabod yn rhyngwladol fel Mis Pride lle mae dathliadau'n cael eu cynnal, a gwneir cyfraniadau i gymunedau LHDTC+ ledled y byd.

 

I ddathlu mis Pride eleni, bydd y Bont-faen yn cynnal nifer o ddigwyddiadau drwy gydol mis Mehefin ar gyfer aelodau a chynghreiriaid cymunedau LHDTC+ y Fro. Roedd rhodd mainc Pride yr wythnos diwethaf yn dynodi dechrau dathliadau mis Pride yn y Fro.

 

Dros y penwythnos, cafodd y fainc ei fandaleiddio'n fwriadol, ac mae'r digwyddiad yn cael ei drin fel ymchwiliad troseddol gan Heddlu De Cymru.

 

Datganiad gan Lis Burnett, Arweinydd y Cyngor:

"Brynhawn Gwener fe osododd y Cyngor fainc enfys yng nghanol tref Y Bont-faen i nodi mis Pride a dechrau dathliadau lleol Pride y Bont-faen eleni. Mae mis Pride yn ddathliad o dderbyn, cydraddoldeb a phobl LHDTC+ yn ein cymunedau. Mae hefyd yn fwy na hyn. Mae'n gyfle i adfyfyrio ynghylch mor niweidiol yr oedd homoffobia ac y gall fod o hyd. 

  

"Yn anffodus, ar ryw adeg dros y penwythnos cafodd y fainc ei difrodi'n fwriadol. Yn ogystal â difrod troseddol bwriadol, mae hyn yn drosedd casineb. Cafodd ei adrodd i Heddlu De Cymru sy'n ymchwilio ac mae lluniau Teledu Cylch Cyfyng lleol yn cael eu hadolygu.  

  

"Mae'r arddangosfa bathetig hon o anoddefgarwch a chasineb yn dangos pam mae mor bwysig dathlu Pride yn ein cymunedau. Mae mwyafrif helaeth pobl Bro Morgannwg yn garedig, yn oddefgar ac yn gofalu am y rhai maen nhw’n byw ochr yn ochr â nhw. Byddant yn cael eu dychryn gan y newyddion hyn ac ni ddylai'r troseddwyr sy'n gyfrifol feddwl am un eiliad eu bod yn cynrychioli trigolion lleol.  

  

"Cafodd y fainc ei hadfer i'w llawn ogoniant ddydd Llun ac unwaith eto mae'n dystiolaeth weledol o gefnogaeth pobl y Bont-faen ac yn fan yng nghanol y dref lle gall y gymuned ddod at ei gilydd. Wnawn ni fyth roi’r gorau i ddangos ein cefnogaeth i bawb sy'n rhan o'n cymunedau.  

  

"Cariad sy’n ennill x"

Mae'r Cyngor wedi gweithio'n gyflym i adfer y fainc i'w dyluniad gwreiddiol.

 

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi ymrwymo i ymgyrchu dros gydraddoldeb, cynwysoldeb ac amrywiaeth o fewn ei gymunedau ac nid yw'n goddef troseddau casineb.