Cost of Living Support Icon

 

Gwaith yn dechrau i wella bioamrywiaeth ar hyd Afon Ddawan

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi lansio ei brosiect tirwedd Adfer y Ddawan, rhaglen waith tair blynedd i wneud gwelliannau bioamrywiaeth ar hyd Afon Ddawan, y nentydd sy’n ei bwydo, a'r dirwedd gyfagos.

  • Dydd Mawrth, 11 Mis Gorffenaf 2023

    Bro Morgannwg



River Thaw - Swans

Nod y prosiect yw bod bywyd gwyllt lleol, tirfeddianwyr a'r gymuned yn elwa. Yn rhan ohono bydd cyfleoedd amrywiol i sefydliadau, grwpiau cymunedol a gwirfoddolwyr gymryd rhan yn y gwaith cadwraeth. 

 

Ochr yn ochr ag arian o gronfa Prosiect Sero Cyngor Bro Morgannwg, cafodd y prosiect gyllid gan Sefydliad Waterloo a Rhwydweithiau Natur, sef cyllid drwy Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol ar ran Llywodraeth Cymru ac mewn partneriaeth â Cyfoeth Naturiol Cymru.

 

Nod Cronfa Rhwydwaith Byd Natur yw cryfhau gwytnwch safleoedd tir a morol gwarchodedig yng Nghymru, rhoi hwb i adferiad natur, ac annog cymunedau i gymryd rhan mewn cadwraeth natur.

River Thaw - Water Vole

Meddai Mel Stewart, Rheolwr Prosiect Adfer y Ddawan: "Mae prosiect Adfer y Ddawan yn ymwneud â chreu rhwydweithiau a chysylltiadau – ar gyfer bywyd gwyllt ac ar gyfer pobl.

 

Mae gennym gymaint o brosiectau diddorol i edrych ymlaen atynt, gan gynnwys plannu coed ac adfer dolydd blodau gwyllt a fydd o fudd i ystlumod, gwiberod a chwilod, ac wedyn gwelliannau i afonydd a phyllau a fydd o fudd i lygod dŵr, dyfrgwn a madfallod.

 

"Rydym yn awyddus iawn i ymgysylltu â grwpiau cymunedol, ysgolion a thirfeddianwyr lleol gyda'r gwaith, a bydd gennym ddigon o gyfleoedd i gynnwys y gymuned ar hyd y daith." 

Dywedodd y Cynghorydd Bronwen Brooks, Aelod Cabinet dros Leoedd Cynaliadwy:   "Rwy'n falch iawn o weld prosiect Adfer y Ddawan yn cael ei lansio'n swyddogol.

 

"Mae hon yn rhaglen waith gyffrous, a fydd, gobeithio, yn codi ymwybyddiaeth y cyhoedd o bwysigrwydd cadwraeth ac yn meithrin ymdeimlad o warcheidiaeth.

 

Bydd cymaint i'r gymuned gymryd rhan ynddo, gan gynnwys arolygon, prosiectau Gwyddoniaeth Dinasyddion, partïon gwaith cadwraeth a Gwyliau i ddathlu’r Afon Ddawan."

 

Dylai unrhyw un sydd â diddordeb mewn cymryd rhan ym mhrosiect Adfer y Ddawan, naill ai fel gwirfoddolwr neu fel grŵp, gysylltu â Rheolwr y Prosiect, Mel Stewart drwy e-bostio mjstewart@valeofglamorgan.gov.uk I gofrestru eu diddordeb.