Cost of Living Support Icon

 

Rhaglen lwyddiannus o Ddigwyddiadau'r Haf ym Mhafiliwn Pier Penarth yn parhau 

Bydd Pafiliwn Pier Penarth, a weithredir gan Gyngor Bro Morgannwg, yn cynnal amrywiaeth eang o ddigwyddiadau dros yr haf.  

 

  • Dydd Mawrth, 25 Mis Gorffenaf 2023

    Bro Morgannwg



Wedi'i leoli ar lan y môr Penarth, mae’r Pafiliwn yn lleoliad bywiog sydd â sinema ac sy’n llwyfannu cerddoriaeth fyw, arddangosfeydd celf, gweithdai a mwy.  

 

Drwy gydol yr haf, bydd y Pafiliwn yn cynnal nifer o ddigwyddiadau cerddoriaeth a chelf sy'n addas ar gyfer pob oedran. 

 

Penarth Pier PavilionDywedodd y Cynghorydd Rhiannon Birch, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Addysg, y Celfyddydau a'r Gymraeg:  "Mae'r Pafiliwn yn chwarae rhan allweddol wrth gynnig digwyddiadau a rhaglenni celf i drigolion ac ymwelwyr y Fro.  

 

"Ers cymryd y Pafiliwn drosodd eto ychydig flynyddoedd yn ôl, mae'r Cyngor wedi gweithio'n galed i'w ailsefydlu fel ased cymunedol. Mae'n adeilad poblogaidd iawn, wrth wraidd y dref i raddau helaeth.  

 

"Rydyn ni am iddo gael ei ddefnyddio gan groestoriad eang o'r boblogaeth leol a'r rhai o ymhellach i ffwrdd.  

 

"Yr haf hwn, bydd y lleoliad yn cynnig amrywiaeth o ddigwyddiadau gwahanol a fydd, gobeithio, yn apelio at bobl ag amrywiaeth o ddiddordebau."  

Yr haf hwn, bydd y Pafiliwn yn arddangos cyfres o forluniau o'r arddangosfa 'Môr o Newid'. Mae'r artistiaid i gyd wedi'u lleoli yn y Fro ac yn frwd dros yr Arfordir Treftadaeth a'i amgylchedd.  

 

Yr artist dan sylw ym mis Gorffennaf yw Christine Lamb ac ym mis Awst, bydd gwaith Dawn Harries yn cael ei arddangos. Mae'r arddangosfeydd celf am ddim i'w gweld, ac mae gwaith celf ar gael i'w brynu ar gais.  

 

Bydd y Pafiliwn hefyd yn cynnal Illyria cwmni theatr Shakespeare awyr agored arobryn yng Ngerddi’r Cymin.  

Meddai Karen Davies, Rheolwr y Pafiliwn:   "Mae bob amser yn wych gweld drysau ein lleoliad eiconig ar agor i'r gymuned.

 

"Rydym yn llawn cyffro i groesawu Illyria yn ôl i'r Pafiliwn eleni.

 

"Mae eu perfformiadau yn denu niferoedd mawr, ac yn derbyn adolygiadau disglair bob amser.

 

"Mae'r perfformiadau ar 27 Gorffennaf ac Awst 25 yn croesawu pob oedran i fwynhau perfformiad theatrig cyffrous gyda chefndir hardd."

Bydd Illyria yn perfformio Pride and Prejudice ar 27 Gorffennaf a'r Twelfth Night ar 25 Awst.  Bydd tocynnau ar gael i’w prynu yma.   

 

Mae rhaglen digwyddiadau'r hydref / gaeaf yn cael ei datblygu ar hyn o bryd, gan ddechrau gyda’r actor theatr gerdd "Peter Karrie – Sgwrs gyda'r 'Phantom'" ar 21 Medi. 

 

Bydd mwy o fanylion ar gael ar gyfer digwyddiadau sydd i ddod yn y Pafiliwn ar wefan y Cyngor.   

 

Mae'r Pafiliwn hefyd ar gael i’w logi ar gyfer hurio preifat.