Artistiaid Pen Clogwyn Penarth yn arddangos ar Cliff Hill
Ar hyn o bryd mae Artistiaid Pen Clogwyn Penarth yn arddangos ar Lwybr y Clogwyn Penarth ochr yn ochr â'r lloches a adeiladwyd yn ddiweddar ar ben Bryn y Clogwyn.
Mae'r grŵp yn artistiaid lleol sy'n dod at ei gilydd o'u gwirfodd i ddangos eu gwaith yn yr awyr agored.
Trefnwyd y digwyddiad gyda chymorth Gwasanaeth Datblygu Celfyddydau’r Fro, ac mae wedi noddi’n garedig gan y caffi lleol Willmore’s 1938. Fe’i cefnogwyd gan Dîm Digwyddiadau a Thwristiaeth Bro Morgannwg drwy gyfrwng grantiau sydd ar gael i grwpiau a sefydliadau lleol yn y Fro.
Dywedodd y Cynghorydd Rhiannon Birch "Mae'n gyfle gwych i Gyngor Bro Morgannwg allu cefnogi'r digwyddiad awyr agored lleol unigryw hwn.
Roedd yn bleser edrych ar eu gweithiau celf a chefnogi talent leol mor greadigol. Byddwn yn annog pobl i'w weld cyn iddo gael ei dynnu i lawr."
Mae'r artistiaid i gyd yn mwynhau'r digwyddiad a'r rhyngweithio rhwng y cyhoedd gan roi cyfle iddynt ddod at ei gilydd a rhannu eu gwybodaeth a'u profiadau.
Mae'r gwaith celf yn cynnwys amrywiaeth o arferion gan gynnwys paentiadau tirwedd traddodiadol, bywyd llonydd, celf bop ac amrywiaeth o bynciau eraill.
Mae'r grŵp yn gobeithio denu mwy o artistiaid i gymryd rhan y flwyddyn nesaf ac maent eisoes wedi ennyn llawer iawn o ddiddordeb.
Mae hwn yn ddigwyddiad unigryw lle, boed law neu hindda, fe welwch yr artistiaid ar lwybr y clogwyn. Gobaith Cyngor Bro Morgannwg yw gweld pobl yn ymgysylltu â'r gwaith celf y penwythnos hwn.
Mae'r arddangosfa ar agor tan 7pm ddydd Sul 15 Gorffennaf.