Ysgol Gynradd Oak Field Yn Derbyn Gwobr Ysgol Iach
Mae Ysgol Gynradd Oak Field wedi derbyn Gwobr Ansawdd Genedlaethol Rhwydwaith Cymru - Cynlluniau Ysgolion Iach yn dilyn asesiad rhagorol.
Yn cael ei oruchwylio gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae'r wobr yn cael ei dyfarnu i ysgolion sy'n cymryd cyfrifoldeb dros gynnal a hyrwyddo iechyd pawb sydd ynghlwm wrthynt.
Addysgir disgyblion am sut i fyw bywydau iach a chymerir camau cadarnhaol i wella lles corfforol, cymdeithasol a meddyliol y gymuned leol.
Caiff ysgolion eu hasesu ar saith maen prawf:
-
Bwyd a ffitrwydd (maeth a gweithgaredd corfforol)
-
Iechyd a lles meddyliol ac emosiynol (gan gynnwys staff)
-
Datblygiad personol a pherthnasau (gan gynnwys addysg rhyw)
-
Defnyddio a chamddefnyddio sylweddau, gan gynnwys alcohol, ysmygu a chyffuriau (cyfreithiol, anghyfreithlon a’r rhai ar bresgripsiwn)
-
Amgylchedd, gan gynnwys eco-fentrau a gwella'r ysgol a'r ardal ehangach
-
Diogelwch, gan gynnwys amrywiaeth o bynciau fel amddiffyn plant, diogelwch yr haul, diogelwch ar y rhyngrwyd, a chymorth cyntaf
-
Hylendid ar draws ysgolion a lleoliadau nad ydynt yn ysgolion
Yn ystod ymweliad fis diwethaf, gwnaeth yr hyn a welsant yn y meysydd hyn argraff fawr ar aseswyr, gyda chrynodeb yr adroddiad yn nodi: "Mae sawl elfen o Oak Field sy'n sefyll allan, ond efallai mai'r mwyaf nodedig o'r rhain i gyd yw'r ffordd y mae'r ysgol yn blaenoriaethu lles teulu cyfan pob disgybl. Mae cydnabyddiaeth gref o'r ffaith bod angen perthnasoedd cryf, cadarnhaol a chyfathrebu â rhieni a gofalwyr er mwyn gwella lles, presenoldeb a chynnydd mewn dysgu i bob dysgwr."
Dwedodd Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Addysg, y Celfyddydau a'r Gymraeg – Y Cynghorydd Rhiannon Birch: "Hoffwn longyfarch pawb yn Ysgol Gynradd Oak Field am y cyflawniad gwych hwn. Mae'r ysgol, ei staff, ei disgyblion a'i theuluoedd wedi gwneud gwaith rhagorol wrth gasglu'r swm sylweddol o wybodaeth sydd ei hangen ar gyfer y wobr hon ynghyd.
"Mae'r adroddiad asesu disglair yn siarad drosto'i hun ac mae'n dyst i'r gwaith sydd wedi mynd i mewn i ennill y statws hwn.
"Mae iechyd a lles yn brif flaenoriaeth i'r Cyngor ac rydym yn gobeithio gweld ysgolion eraill yn derbyn y wobr hon yn y dyfodol."
Cyn bo hir, bydd Oak Field yn arddangos plac Gwobr Ansawdd Cenedlaethol i gydnabod ei gyflawniad, gyda dathliad wedi'i gynllunio ar gyfer dechrau'r tymor nesaf.