Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd yn Lansio Rhaglen Gweithgareddau Haf 2023
O sesiynau galw heibio am ddim i wersylloedd chwaraeon wythnos o hyd, mae llawer o weithgareddau i deuluoedd a phlant gymryd rhan ynddynt yr haf hwn.
Gan weithio mewn partneriaeth â sefydliadau ledled y Fro, mae’r tîm Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd wedi llunio calendr o ddigwyddiadau sy'n addas ar gyfer plant a phobl ifanc hyd at 25 oed, ochr yn ochr â nifer o weithgareddau teuluol.
Mae Timau Llyfrgelloedd, Dechrau'n Deg a Byw'n Iach y Cyngor i gyd yn cynnig nifer o ddigwyddiadau am ddim i blant a phobl ifanc gymryd rhan ynddynt yn ystod gwyliau'r ysgol.
Mae'r gweithgareddau hyn yn cynnwys digwyddiadau crefft a stori am ddim neu gost isel ar draws holl lyfrgelloedd y Fro, yn ogystal â sesiynau pêl-droed, dawns, sglefrfyrddio, a chwaraeon padlo ledled y Fro.
Mae gweithgareddau eraill yn cynnwys sesiynau cerddoriaeth, gweithgareddau academi traeth, a sesiynau chwarae am ddim ar draws y Fro lle darperir offer chwarae am ddim.
Bydd Gwasanaeth Ieuenctid y Fro hefyd yn cynnal sawl sesiwn Clwb Ieuenctid un-tro yn ystod yr haf ar gyfer plant hŷn a phobl ifanc hyd at 25 oed.
Dwedodd y Cynghorydd Gwyn John, yr Aelod Cabinet dros Hamdden, Chwaraeon a Llesiant: "Gall gwyliau'r haf fod yn gyfnod anodd i rieni, yn enwedig yn ystod yr argyfwng costau byw presennol - a dyna pam ei bod yn bwysicach nag erioed i gynnig gweithgareddau am ddim i blant a phobl ifanc eu mwynhau.
"Rwy'n gobeithio y bydd rhaglen Haf o Hwyl Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd yn helpu teuluoedd i ddod o hyd i ffyrdd hwyliog o dreulio gwyliau'r haf."
Bydd Rhaglen Gweithgareddau Haf 2023 yn cychwyn ddydd Sadwrn 22 Gorffennaf a bydd yn rhedeg trwy gydol yr haf tan 03 Medi.
Gallwch ddod o hyd i'r rhaglen lawn o ddigwyddiadau ar wefan y Cyngor.