Cyfri’r dyddiau nes bod y terfyn 20mya yn cael ei gyflwyno ym Mro Morgannwg
O 17 Medi 2023, bydd y terfyn cyflymder o 20mya diofyn yn dod i rym ar ffyrdd lle mae pobl yn byw, yn gweithio ac yn chwarae ym Mro Morgannwg, ac ar draws Cymru. Bydd rhai ffyrdd yn parhau i fod yn rhai 30mya ac mae'r Fro wrthi’n mynd trwy ymgynghoriad i benderfynu pa ffyrdd fydd yn cadw eu terfyn cyflymder presennol.
Mae Llywodraeth Cymru yn newid y terfyn cyflymder diofyn i wneud strydoedd yn fwy diogel drwy leihau'r tebygolrwydd o wrthdrawiadau - a marwolaeth neu anaf o ganlyniad iddynt. Bydd y newidiadau'n digwydd ar ffyrdd lle mae goleuadau stryd yn cael eu gosod ddim mwy na 200 llath ar wahân, sydd fel arfer wedi'u lleoli mewn ardaloedd preswyl ac adeiledig y mae pobl yn eu defnyddio'n aml.
Nid yw'r ddeddfwriaeth newydd yn golygu y bydd pob ffordd yn newid i’r terfyn 20mya; bydd rhai yn aros â therfyn o 30mya a byddant yn cael eu galw'n eithriadau. Mae pob cyngor yng Nghymru yn ystyried pa strydoedd yn eu hardal ddylai aros yn rhai 30mya. Gallwch weld pa ffyrdd yr effeithir arnynt ar Gwefan Map Data Cymru neu rannu eich barn gyda Chyngor Bro Morgannwg yn uniongyrchol ar Cymryd Rhan y Fro.
Amcangyfrifodd astudiaeth iechyd cyhoeddus yng Nghymru y gallai'r terfyn cyflymder 20mya diofyn arwain at:
-
40% yn llai o wrthdrawiadau
-
arbed 6 i 10 o fywydau bob blwyddyn
-
ac osgoi 1200 i 2000 o bobl yn cael eu hanafu bob blwyddyn.
Mae tystiolaeth yn dangos bod pobl yn teimlo'n fwy cyfforddus i gerdded a beicio pan fydd cyflymderau cerbydau’n arafach, ac mae'n fwy diogel i blant gerdded i'r ysgol; mae pobl hŷn, pobl anabl neu bobl ag anghenion ychwanegol hefyd yn gallu teithio'n fwy annibynnol.
Dywedodd Lee Waters, Dirprwy Weinidog Newid yn yr Hinsawdd, sy'n gyfrifol am drafnidiaeth: "Mae'r dystiolaeth o bob cwr o'r byd yn glir iawn - mae lleihau terfynau cyflymder yn lleihau gwrthdrawiadau ac yn achub bywydau. Mae cyflymder arafach hefyd yn helpu i greu cymuned fwy diogel a chroesawgar, gan roi'r hyder i bobl i gerdded a beicio mwy, gan wella eu hiechyd a'u lles a diogelu'r amgylchedd ar yr un pryd."
Dywedodd y Cynghorydd Mark Wilson, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Wasanaethau Cymdogaeth ac Adeiladu: "Bydd y ddeddfwriaeth 20mya yn trawsnewid yn llwyr lle rydyn ni'n byw, gweithio ac yn mynd i'r ysgol.
"Drwy leihau'r terfyn cyflymder cenedlaethol, rydym yn gobeithio y bydd hyn yn helpu i roi'r hyder i bobl ddewis ffurfiau mwy actif o deithio fel cerdded neu feicio o amgylch eu cymuned, yn enwedig wrth i ni weithio i wella'r llwybrau presennol a chyflwyno llwybrau a chynlluniau teithio llesol newydd yn y Fro."
"Mae ymchwil yn dangos bod cyflymder o 20mya neu lai yn lleihau'n fawr y risg o ddamweiniau ffordd ac anafiadau angheuol, felly bydd lleihau cyflymderau nid yn unig yn achub bywydau ond yn adeiladu cymunedau mwy diogel."
Gallwch gael mwy o wybodaeth am 20mya ar gwefan Llywodraeth Cymru neu i weld sut mae hyn yn effeithio ar eich strydoedd lleol.